I. M. Pei
(Ailgyfeiriad o I.M. Pei)
Pensaer o'r Unol Daleithiau a aned yn Tsieina oedd Ieoh Ming Pei (26 Ebrill 1917 – 16 Mai 2019), a adnabyddir fel rheol fel I. M. Pei. Ganed ef yn Guangzhou, yn Guangdong, Tsieina. Roedd ei dad yn fanciwr, a daeth yn gyfarwyddwr Banc Tsieina yn ddiweddarach. Symudodd y teulu i Hong Kong, yna i Shanghai. Yn 18 oed aeth i astudio pensaernïaeth ym Mhrifysgol Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau, ac yn ddiweddarach yn Harvard, lle bu'n astudio dan Walter Gropius.
I. M. Pei | |
---|---|
Ganwyd | 貝聿銘 26 Ebrill 1917 Guangzhou |
Bu farw | 16 Mai 2019 Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, Taiwan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pensaer |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Louvre Pyramid, Rock and Roll Hall of Fame, Bank of China Tower, Mastercard International Global Headquarters, Luce Memorial Chapel, Bali Refuse Incineration Plant, The Garden Hotel, Guangzhou |
Cartre'r teulu | Suzhou |
Mudiad | International Style |
Tad | Tsuyee Pei |
Priod | Eileen Loo |
Gwobr/au | Pritzker Architecture Prize, Y Medal Celf Cenedlaethol, Medal Aur Frenhinol, Medal Rhyddid yr Arlywydd, Praemium Imperiale, Architecture Firm Award, Chwedl Fyw Llyfrgell y Gyngres, Officier de la Légion d'honneur, Medal y Rhyddid, honorary doctor of the University of Hong Kong, honorary doctor of the Tongji University, honorary doctor of the Chinese University of Hong Kong, Eugene McDermott Award in the Arts at MIT, Berliner Bär, Great Immigrants Award |
Dechreuodd Pei ei gwmni ei hun yn 1955, a bu'n gyfrifol am nifer fawr o adeiladau adnabyddus trwy'r byd; yr enwocaf efallai yw Pyramid y Louvre ym Mharis.
Adeiladau gan Pei
golygu- Amgueddfa Gelf Islamaidd, Doha
- Amgueddfa Miho, Kyoto, Japan
- L'Enfant Plaza, Washington, DC, UDA
- Llyfrgell John F. Kennedy, Boston, UDA
- Neuadd Dinas, Dallas, Texas, UDA
- Pyramid y Louvre
- Theatr Dancing Water, Macau
- Tŵr Miami