Guangzhou
Guangzhou (Tsieineeg wedi symleiddio: 广州; Tsieineeg traddodiadol: 廣州; pinyin: Guǎngzhōu), hefyd Canton, yw prifddinas talaith Guangdong, Gweriniaeth Pobl Tsieina. Roedd poblogaeth y ddinas ei hun yn 2005 yn 3,152,825, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 9,496,800. Hi yw trydydd ardal ddinesig Tsieina o ran poblogaeth, ar ôl Beijing a Shanghai.
![]() | |
Math | rhanbarth lefel is-dalaith, dinas â miliynau o drigolion, dinas lefel rhaglawiaeth ![]() |
---|---|
![]() | |
Poblogaeth | 18,676,605 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Wen Guohui ![]() |
Cylchfa amser | UTC+08:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Delta Afon Perl ![]() |
Sir | Guangdong, Kwangtung ![]() |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Arwynebedd | 7,248.86 km² ![]() |
Uwch y môr | 21 metr ![]() |
Gerllaw | Afon Perl ![]() |
Yn ffinio gyda | Zhaoqing, Zhongshan ![]() |
Cyfesurynnau | 23.13°N 113.26°E ![]() |
Cod post | 510000 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Q106037313 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Wen Guohui ![]() |
![]() | |
Saif y ddinas ger aber Afon y Perlau, heb fod ymhell o Hong Cong. Credir i'r ddinas gael ei sefydlu gyntaf fel Panyu yn 214 CC. Anrheithiwyd y ddinas gan Arabiaid a Persiaid yn 758. Datblygodd i fod yn borthladd pwysig, ac mae'n parhau i fod yn un o borthladdoedd mwyaf y byd heddiw.
Mae maes awyr rhwngwladol Baiyan (côd CAN) yn gwasanaethu’r ddinas. Mae’n 28 cilomedr o ganol y ddinas. Agorwyd Baiyan yn 2004 ac mae tua 25 miliwn o bobl yn ei ddefnyddio’n flynyddol.[1]
Adeiladau a chofadeiladauGolygu
- Mosg Huaisheng
- Stadiwm Yuexiushan
- Tŵr Zhenhai
EnwogionGolygu
- I. M. Pei (g. 1917), pensaer
- Zi Lan Liao (g. 1970), cerddores