I. D. Hooson

cyfreithiwr a bardd

Roedd Isaac Daniel Hooson (2 Mai 188018 Hydref 1948), neu I.D. Hooson, yn fardd Cymraeg a sgwennai cerddi syml a phoblogaidd ar y mesurau rhydd, yn enwedig telynegion a baledi. Un o'i faledi enwocaf yw'r Fantell Fraith a gyhoeddodd yn 1934.

I. D. Hooson
Ganwyd2 Medi 1880 Edit this on Wikidata
Rhosllannerchrugog Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 1948 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Ramadegol Rhiwabon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Clawr adargraffiad o'i gerddi.

O Gernyw y daeth ei dad Edward, gan setlo yn Sir y Fflint yn y gwaith plwm. Cafodd Isaac ei eni yn Rhosllannerchrugog, yn fab i Edward a Harriet Hooson ac yno y bu byw - yn Nhŷ Fictoria, Stryd y Farchnad. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Rhiwabon. Roedd yn gyfreithiwr wrth ei waith ac adnabyddid ef fel "Cyfaill i Blant Cymru".

Enwyd Ysgol I.D. Hooson ar ei ôl.

Gwaith

golygu

Rhwng 1897 a 1904 bu'n gweithio i "Mri Morris & Jones" yn Lerpwl, ond ar farwolaeth ei dad, daeth yn nes adref i weithio yn y dref agosaf, sef Wrecsam. Bu yno gyda cwmni o gyfreithwyr nes i'r Rhyfel Byd Cyntaf ddechrau a gorfodwyd ef i wasanaethu yn y llynges. Yn 1919 dychwelodd i weithio fel partner mewn ffyrm o gyfreithwyr yn Wrecsam a rhwng 1920 a 1943 ef oedd yr ‘Official Receiver in Bankruptcy’ yng nghylch Caer a Gogledd Cymru.[1]

Yn unol â'i ddymuniad gwasgarwyd llwch I. D. Hooson uwchben pen dwyreiniol Panorama Walk yn nyffryn Llangollen lle saif cofeb garreg [2] er cof amdano. Mae'n hawdd cyrraedd yr heneb ar hyd llwybr sy'n arwain i'r gogledd-orllewin o faes parcio bach ar ochr y ffordd [Cyfeirnod Grid: SJ 2471 2480] ychydig i'r gorllewin o'r grid gwartheg.

Mae darlun o'r gofeb ar glawr llyfr I. D. Hooson - Y Casgliad Cyflawn a gyhoeddwyd yn 2012.

Llyfryddiaeth

golygu

Cyfeiriadau

golygu

Dolen allanol

golygu