Iago ab Idwal ap Meurig

brenin Gwynedd

Roedd Iago ab Idwal ap Meurig (974? — 1039) yn frenin Gwynedd.

Iago ab Idwal ap Meurig
Ganwyd974 Edit this on Wikidata
Bu farw1039 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
TadIdwal ap Meurig Edit this on Wikidata
PlantCynan ab Iago, Angharad ferch Iago ab Idwal, Crisli ferch Iago ab Idwal ap Meurig, Tangwystl ferch Iago ab Idwal ap Meurig Edit this on Wikidata

Daeth Iago, oedd o linach Idwal Foel, yn frenin ar Wynedd ar farwolaeth Llywelyn ap Seisyll yn 1023. Felly dychwelodd llinach Rhodri Mawr i rym yng Ngwynedd, oherwydd ymddengys nad oedd Llywelyn ap Seisyll o'r llinach yma.

Yn ôl Llyfr Llandaf, dim ond ar Ynys Môn y teyrnasai Iago, gan fod Rhydderch ab Iestyn o Ddeheubarth yn teyrnasu ar ran o Wynedd.

Lladdwyd Iago gan ei ŵyr ei hun yn 1039, a dilynwyd ef gan fab Llywelyn ap Seisyll, Gruffydd ap Llywelyn.

Ymddengys i un o feibion Iago: Cynan ap Iago, ffoi i Iwerddon lle priododd â Ragnaillt o linach brenhinoedd Danaidd Dulyn. Pan ddychwelodd eu mab hwy, Gruffydd ap Cynan i hawlio teyrnas Gwynedd yn ddiweddarach, gan nad oedd ei dad yn adnabyddus yng Nghymru, cyfeirid ato fel "ŵyr Iago" yn hytrach na "Mab Cynan".

Llinach golygu

Llinach Tywysogion Gwynedd golygu

 
 
 
 
 
 
 
 
Iago ab Idwal ap Meurig
c. 1023-1039
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Cynan ab Iago
m. 1060
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Gruffudd ap Cynan
1055-1081-1137
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Owain Gwynedd
1100-1137-1170
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Hywel ab Owain Gwynedd
r. 1170
 
Iorwerth Drwyndwn
1145-1174
 
Dafydd ab Owain Gwynedd
Tywysog 1170-1195
 
Maelgwn ab Owain Gwynedd
Tywysog 1170-1173
 
Rhodri ab Owain Gwynedd
Tywysog 1170-1195
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
Llywelyn Fawr
1173-1195-1240
O'i flaen :
Llywelyn ap Seisyll
Brenhinoedd Gwynedd Olynydd :
Gruffudd ap Llywelyn