Iaith â chymhareb forffem-y-gair uchel yw iaith sythetig. Mewn ieithoedd synthetig mae tueddiad cryf i gyfansoddi geiriau o ddau neu fwy o forffemau.

Mae dau brif fath o ieithoedd synthetig:

Ieithoedd synthetig a dadelfennol golygu

Gwrthgyferbynnir ieithoedd synthetig yn aml ag ieithoedd dadelfennol. Mae'n gywirach tybio bod ieithoedd ar raddfa, ac ieithoedd dadelfennol gaeth (gydag un morffem-y-gair) ar un ochr a'r ieithoedd polysynthetig (lle y defnyddir un gair i gyfleu gwybodaeth brawddeg gyfan Cymraeg) ar yr ochr arall. Mae ieithoedd synthetig yn dueddol o fod rhywle ynghanol y raddfa hon. Mae nifer o ieithoedd synthetig yn y byd ac mae'r mwyaf cyffredin ohonynt yn ieithoedd Indo-Ewropeaidd fel Groeg, Lladin, Almaeneg, Sbaeneg, Rwsieg, Tsieceg yn ogystal â nifer o ieithoedd cynfrodorol America fel Navajo, Nahwatleg, Mohawk a Quecha. Mae pob iaith Indo-Ewropeaidd yn synthetig i ryw raddau ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn llawer mwy dadelfennol na'u ffurfiau hŷn. Er enghraifft, mae'r Gymraeg wedi colli'r holl ffurfdroadau cyflwr a oedd yn bresennol yn y Frythoneg ac mae'r ieithoedd Romáwns hefyd wedi colli holl gyflyrau Lladin. Mae rhai o'r ieithoedd Germanaidd fel Saesneg ac Afrikaans bron yn analytig â dim ond pedair ffurf ferfol, reolaidd yn Saesneg, a dim ond dwy mewn Afrikaans.

Ffurfiau synthetig golygu

Mae yna sawl ffordd y gall iaith fod yn synthetig.

Deilliol golygu

Yma unir wahanol fathau o forffemau (enwau, berfau, ayyb.) i greu geiriau newydd. Er enghraifft:

Almaeneg: Aufsichtsratsmitgliederversammlung ⇒ "Ar-golwg-cyngor-gyda-aelodau-casgliad" sy'n golygu "cyfarfod aelodau y bwrdd goruchwylio".
Groeg: υπερχοληστερολαίμια ⇒ "droslawer/colesterol-uchel-gwaed+-ia(ffurfdro)" sy'n golygu "hypercolesterolemia".
Poleg: przystanek ⇒ "ar-ochr-sefyll-bach" sy'n golygu "arhosfa bysiau".
Saesneg: antidisestablishmentarianism ⇒ "yn erbyn-di-sefydlu-iad-ewyllysiwr-aeth".
Rwsieg: спасибо ⇒ "Gwna Dduw dy achub" sy'n golygu "diolch".

Perthynol golygu

Yma unir gwreiddyn gair â morffemau rhwymedig i ddangos swyddogaeth ramadegol. Er enghraifft:

Eidaleg: comunicandovele ⇒ "eich cyfathrebu-rheini(benywaidd, lluosog)" sy'n golygu "(wrth) eu cyfathrebu (benywaidd, lluosog) i chi".
Sbaeneg: escribiéndomelo ⇒ "ysgrifennu-ef-fi" sy'n golygu "(wrth)) ei ysgrifennu i mi".
Nahwatleg: ocaltizquiya ⇒ "yn barod-(hi)-ef-trochu-basai" sy'n golygu "basai hi wedi'i drochu".
Ffinneg: juoksentelisinkohan ⇒ "rhedeg-mudiad cyflym-dibynnol-fi-cwestiwn-achosol" sy'n golygu "Sgwn i a ddylwn i redeg o gwmpas (heb reswm)".

Gweler hefyd golygu

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: deilliol, perthynol, morffem rhwymedig o'r Saesneg "derivational synthesis, relational synthesis, bound morpheme.". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.