Ian Blackford
Gwleidydd o'r Alban yw Ian Blackford (ganed 14 Mai 1961) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Ross, Skye a Lochaber; mae'r etholaeth yn swydd Ucheldir yr Alban, yr Alban. Mae Ian yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Ian Blackford AS | |
| |
Cyfnod yn y swydd 7 Mai 2015 – Mai 2020 | |
Rhagflaenydd | Charles Kennedy |
---|---|
Geni | Caeredin, Yr Alban | 14 Mai 1961
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Ross, Skye a Lochaber |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Gweithiodd i NatWest Securities a'r Deutsche Bank AG am rai blynyddoedd ac yn y gorffennol bu'n Drysorydd Cenedlaethol yr SNP. Cychwynodd ef a'i wraig fusnes ymgynghori ariannol yn 2002.[1]
Etholiad 2015
golyguYn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Ian Blackford 20119 o bleidleisiau, sef 48.1% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +33.0 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 5124 pleidlais.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Executive Profile: Ian Blackford". Bloomberg Business. Cyrchwyd 17 Ebrill 2015.
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban