Ross, Skye a Lochaber (etholaeth seneddol y DU)
Cyfesurynnau: 57°16′26″N 5°53′46″W / 57.274°N 5.896°W
Mae Ross, Skye a Lochaber yn etholaeth Sirol yn yr Alban ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU, sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 2005 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny. Mae rhan o'r etholaeth o fewn rhan canol Ucheldir yr Alban.
Ross, Skye a Lochaber | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Ross, Skye a Lochaber yn Yr Alban. | |
Awdurdodau unedol yr Alban | Ucheldir yr Alban |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 2005 |
Aelod Seneddol | Ian Blackford SNP |
Nifer yr aelodau | 1 |
Crewyd o | Ross, Skye a Gorllewin Inverness Dwyrain Inverness, Nairn a Lochaber |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Cynrychiolir yr etholaeth, ers Etholiad Cyffredinol, Mai 2015 gan Ian Blackford, Plaid Genedlaethol yr Alban (yr SNP). Yn yr etholiad hon cipiodd yr SNP 56 o seddi yn yr Alban.[1] Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017, daliodd ei afael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.
Gydag arwynebedd o 12,000 km2, hon yw'r etholaeth fwyaf yng ngwledydd Prydain a Gogledd Iwerddon.[2] Hyd at Etholiad Cyffredinol 2015 cynrychiolwyd yr etholaeth gan cyn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Charles Kennedy.
Aelodau Seneddol golygu
Gweler hefyd golygu
Cyfeiriadau golygu
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 8 Mai 2015
- ↑ "Frequently Asked Questions: Elections – UK Parliament". Parliament.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-08. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2010.