Ifan Dafydd

Cynhyrchydd cerddoriaeth electronig

Cerddor, cynhyrchydd, cyfansoddwr a pherfformiwr cerddoriaeth pop Cymraeg o Wynedd yw Ifan Dafydd. Roedd yn aelod o'r band Derwyddon Dr Gonzo. Mae'n cyhoeddi cerddoriaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg.[1] Galwyd ef yn "athrylith cerddoriaeth electroneg" yn y cylchgrawn Y Selar.[2] Mae ei gerddoriaeth Gymraeg hefyd wedi ei chwarae ar orsafoedd radio Saesneg megis BBC Radio 6 Music.[3]

Ifan Dafydd
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcynhyrchydd recordiau Edit this on Wikidata
Noder nad yr un person yw'r actor Ifan Huw Dafydd

Arddull gerddorol

golygu

Mae cerddoriaeth Ifan yn cyfuno'r allweddell a seiniau breuddwydiol electronig neu ddawns ac yn aml yn ailgymysgu neu addasu caneuon. Gwnaeth cân Saesneg Emeli Sandé, ‘Daddy’ (ft. Naughty Boy)’ bu iddo ailgymsgu, groesi 1 miliwn ffrydiad ar Spotify yn 2021.[4].

Un o'i draciau mwyaf cyfarwydd yw fersiwn ganddo yntai a Thallo (Elin Edwards) o gân Aderyn Llwyd a berfformiwyd yn y Gymraeg yn wreiddiol gan Mary Hopkin ond sy'n cyfieithiad o gân Gallagher & Lyle[5] The Sparrow[6] a Llonydd gydag Alys Williams a ryddhawyd ar record finyl las yn 2013.[7]

Cydweithio

golygu

Mae llawer o waith Ifan Dafydd yn brosiectau cydweithio gydag artistiaid eraill. Yn eu mysg mae:

Disgyddiaeth

golygu

Mae Ifan wedi rhyddhau neu ymddangos a chydweithio ar 3 albwm:[14]

  • No Good / Miranda
  • Treehouse
  • Y Record Las

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu