Mary Hopkin

canwr, canwr-gyfansoddwr (1950- )

Cantores bop a gwerin o Gymru yw Mary Hopkin (ganwyd 3 Mai 1950). Mae hi’n cael ei hadnabod yn bennaf o’r sengl rhif un 1968 “Those Were the Days”. Roedd hi’n un o’r cantorion cyntaf i ymuno â label y Beatles, Apple.

Mary Hopkin
Ganwyd3 Mai 1950 Edit this on Wikidata
Ystradgynlais, Pontardawe Edit this on Wikidata
Label recordioApple Records, Manticore Records, Numero Uno, Clan Celentano, Mary Hopkin Music, Trax Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, canwr-gyfansoddwr Edit this on Wikidata
Arddullcanu gwerin, cerddoriaeth boblogaidd, roc blaengar Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
PriodTony Visconti Edit this on Wikidata
PlantJessica Lee Morgan Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.maryhopkin.com Edit this on Wikidata

Gyrfa cynnar

golygu

Fe'i ganwyd ym Mhontardawe, lle chymherodd hi wersi canu’n wythnosol a cychwynodd ei gyrfa fel cantores werin gyda grŵp lleol o’r enw the Selby Set and Mary. Rhyddhaodd ei record gyntaf, "Llais Swynol", yn Gymraeg ar label Recordiau Cambrian, cwmni o Bontardawe gan recordio sengl gyda Edward Morus Jones (oedd wedi canu deuawd gyda Dafydd Iwan ar sawl un o'u recordiau. Wedi hynn ymunodd Mary ag Apple Records, oedd yn cael ei reoli gan y Beatles. Gwelodd y model Twiggy hi’n ennill y sioe dalent Prydeinig ‘’Opportunity Knocks’’ ac argymhellodd hi i Paul McCartney.[1]

Cynhyrchwyd ei sengl cyntaf, “Those Were the Days” gan McCartney, a gafodd ei ryddhau ym Mhrydain ar Awst 30, 1968. Er gwaethaf cystadleuaeth gan gantores sefydlig Sandie Shaw, a oedd wedi rhyddhau sengl yr un flwyddyn, daeth Hopkin yn hit rhif un ar siart senglau’r DU.[2] Cyrhaeddodd y gân hefyd rif dau ar Billboard Hot 100 yr UDA, lle roedd wedi ei gadw am tair wythnos o’r brig gan “Hey Jude” y Beatles[3], ac am bythefnos, roedd ar rif un siartiau senglau RPM Canada. Gwerthodd 1,500,000 o gopïau yn yr UDA yn unig ac fe’i ddyfarnwyd y disc aur gan yr RIAA. Roedd gwerthiannau byd-eang dros 8,000,000.[4]

Ar Hydref 2, 1968, ymddangosodd Hopkin yn Eglwys Gadeiriol Sant Paul, Llundain, lle ganodd ''Morning of My Life", "Turn Turn Turn", ac "Plaisir d'amour".[5] Yn Rhagfyr y flwyddyn honno, adroddodd y cylchgrawn cerddoriaeth, NME, bod Hopkin yn ystyried cymryd prif rôl actio ffilm newydd Stanley Baker, The Rape of The Fair Country.[6] Ni ddigwyddodd y prosiect ond mi ganodd Hopkin caneuon teitlau dau o ffilmiau eraill Baker, Where's Jack? a Kidnapped.

Lansiwyd albwm cyntaf Hopkin, "Postcard", a oedd eto wedi cael ei chynhyrchu gan McCartney, ar Chwefror 21, 1969. Roedd yn cynnwys tair cân a oedd yn wreiddiol gan Donovan, ac un gân yr un gan George Martin a Harry Nilsson. Cyrhaeddodd rhif 3 ar siartiau albymau'r DU[2] ac yn UDA, cyrhaeddodd Postcard rif 28 ar siart albymau Billboard.[3]

Ei sengl nesaf oedd "Goodbye", wedi'i ysgrifennu gan McCartney (clodrestrir Lennon-McCartney), a gafodd ei ryddhau ar Mawrth 26, 1969.[7] Cyrhaeddodd rif 2 ar Siartiau Senglau'r DU,[2] lle roedd yn cael ei gadw o'r brig gan "Get Back" y Beatles, rhif 13 ar Billboard Hot 100,[7] a rhif 15 ar siart RPM Canada.[8] Dywedodd Hopkin ei bod yn dehongli "Goodbye" fel McCartney yn addo peidio â dal ati i reoli mân fanylion ei gyfra, gan ei bod yn anghyfforddus gyda'r ffordd yr oedd o'n ei diffinio fel cantores bop.[9] Dangosodd hi hefyd anfodlonrwydd gyda'i rheolwr ar yr adeg, Terry Doran.

Roedd trydydd sengl Hopkin, "Temma Harbour", yn ail-drefniant o gân gan Philamore Lincoln. Hwn buasai'i sengl cyntaf nad oedd wedi cael ei gynhyrchu gan McCartney,[10] ac fe'i rhyddhawyd ar Ionawr 16, 1970, gan gyrraedd rhif 6 yn y DG a rhif 42 yng Nghanada.[8] Yn UDA, cyrhaeddod rhif 39 ar y Billboard Hot 100, a rhif 4 ar siart y cylchgrawn Easy Listening[11]. Gyda Donovan a Billy Preston, roedd Hopkin yn un o gantorion cytgan a sengl 1970 Radha Krishna Temple, "Govinda", oedd wedi cael ei gynhyrchu gan George Harrison i Recordiau Apple.[12]

Priododd Tony Visconti ym 1971; ysgaron nhw ym 1981.

Roedd Hopkin yn aelod y grwp 1980au "Oasis", gyda Julian Lloyd Webber a Peter Skellern.

  • Morgan
  • Jessica

Disgograffiaeth

golygu

Senglau yn y siart

golygu
Blwyddyn Teitl Safle yn y siart
DU Almaen Swistir U.S. Billboard Hot 100 U.S. Adult Contemporary
1968 "Those Were The Days" 1 1 1 2 1
1969 "Goodbye" 2 15 3 13 6
1970 "Temma Harbour" 6 4
"Knock Knock, Who's There?" 2 12
"Que Sera, Sera (Whatever Will Be, Will Be)" 7
"Think About Your Children" 19
1971 "Let My Name Be Sorrow" 46
1972 "Water, Paper & Clay"
1976 "If You Love Me (I Won't Care)" 32

Gwelir rhestr o'i recordiau yma: http://homepage.ntlworld.com/pat.richmonds/discog.htm Archifwyd 2008-06-14 yn y Peiriant Wayback

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rice, Jo (1982). The Guinness Book of 500 Number One Hits. Enfield, Middlesex: Guinness Superlatives Ltd. tt. 120. ISBN 0-85112-250-7.
  2. 2.0 2.1 2.2 Roberts, David (2006). British Hit Singles & Albums. Guinness World Records Limited. t. 259. ISBN 1-904994-10-5.
  3. 3.0 3.1 https://www.allmusic.com/artist/mary-hopkin-mn0000316096
  4. Murrells, Joseph (1978). The Book of Golden Discs. Barrie and Jenkins Ltd. tt. 241. ISBN 0-214-20512-6.
  5. "Mary Hopkin Timeline". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-06.
  6. Tobler, John (1992). NME Rock 'N' Roll Years. Reed International Books Ltd. t. 191.
  7. 7.0 7.1 Womack, Kenneth (2014). The Beatles Encyclopedia: Everything Fab Four. Santa Barbara. t. 336. ISBN 978-0-313-39171-2.
  8. 8.0 8.1 "RPM Top 100 Singles - May 26, 1969" (PDF).
  9. Stuart., Shea, (2007). Fab Four FAQ : everything left to know about the Beatles-- and more!. Rodriguez, Robert, 1961-. New York: Hal Leonard. ISBN 9781423421382. OCLC 128237609.CS1 maint: extra punctuation (link)
  10. C., Winn, John (2008–2009). The Beatles' recorded legacy (arg. 1st ed). New York: Three Rivers Press. ISBN 9780307451576. OCLC 212855798.CS1 maint: date format (link) CS1 maint: extra text (link)
  11. Billboard magazine, March 1970
  12. M., Greene, Joshua (2006). Here comes the sun : the spiritual and musical journey of George Harrison. Hoboken, N.J.: John Wiley & Sons. ISBN 047169021X. OCLC 61879673.

Dolenni allanol

golygu