Ifor Rees (awdur)
Awdur, cyfansoddwr, golygydd, cynhyrchydd a phregethwr oedd Ifor Rees (1 Mawrth 1921 – 27 Chwefror 2004).[1] Fe'i ganwyd yn 1921 yn Glasgow lle roedd ei dad yn gweithio fel saer ym mhorthladdoedd y ddinas yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dychwelodd ei deulu i Fynydd-bach, Abertawe pan oedd yn ifanc iawn. Cafodd ei addysg gynnar yn Ysgol Tirdeunaw, ac yna Ysgol Ramadeg Abertawe a Choleg y Brifysgol Abertawe lle graddiodd gydag anrhydedd yn y Gymraeg. Yna, aeth yn bregethwr ar ôl mynychu’r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin.
Ifor Rees | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mawrth 1921 Mynydd Bach |
Bu farw | 27 Chwefror 2004 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
Ymunodd â’r BBC ym 1957 ym Mangor fel cynhyrchydd radio cyn cynhyrchu a chyflwyno rhaglen newyddion Heddiw cyn gweithio ar raglenni am wledydd eraill lle bu’n arloesi yn y maes. Ar ôl gadael y BBC ym 1981, ffurfiodd gwmni cynhyrchu annibynnol ‘Ffilmiau’r Garth’ gyda’i wraig, Joan, gan adrodd hanesion nifer o wledydd gan gynnwys Groeg, Twrci, Denmarc a Dwyrain yr Almaen. Bu hefyd yn olrhain hanes O. M. Edwards mewn rhaglen a ffilmiwyd ar ynys Cyprus.
Roedd hefyd yn olygydd a chyhoeddodd nifer o gyfrolau. Ffurfiodd ddeuawd ysgafn gyda'i gyfaill Dafydd Evans. Ef oedd cyfansoddwr ac awdur y gân "Dros y Mynydd Du o Frynaman".
Derbyniodd radd MA er anrhydedd yn 1996 am ei waith. Bu farw'n 2004 yn 82 oed.
Llyfryddiaeth
golygu- Peidiwch â Sôn, (1973)
- Dilyn Afon, (1977)
- Crwydro Clawdd Offa, (1979)
- Bro a Bywyd: T.H. Parry Williams, (1981)
- Bro a Bywyd Cynan, (1982)
- Gwgwrus, (1983)
- Ar Glawr, (1983)
- Siwrneio, (1990)
- Dŵr o Ffynnon Felin Bach', (1995)
- Bro a Bywyd: Gwŷr Llên Cwm Tawe, (1995)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Taf Elai; Ebrill 2004" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2014-03-06.