Ym mytholeg a hanes traddodiadol Groeg, mab y duw Oceanus a'r nymph Tethys oedd Inachus. Roedd yn dad i Io, un o gariadon Zeus, a Phoroneus ac Aegialeus. Dywedir iddo sefydlu teyrnas Argos yn y Peloponnesos a chael ei olynu fel brenin gan Phoroneus yn 1807 CC. Mae'n debygol mae chwedl yn unig yw ei hanes.

Ar ôl dilyw Deucalion, arweiniodd trigolion ardal Argos i lawer o'u noddfa yn y mynyddoedd i'r gwastadeddau. Pan fu ymrafael rhwng Poseidon a Hera dros feddiant ar y tir, penderfynodd dderbyn yr olaf. Er dial arno, achosodd Poseidon i afonydd Argos fod yn brin o ddŵr trwy'r flwyddyn.

Ar ôl ei farwolaeth enwyd Afon Inachus (Afon Planisa heddiw) yn Argos ar ei ôl a daeth yn dduw'r afon honno.

Cyfeirir at ei chwedl gan Fyrsil yn ei Georgica, gan Apollodorus a gan yr awdur llyfr taith Pausanius.

Ffynhonnell golygu

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).