Inception (ffilm)
(Ailgyfeiriad o Inception)
Ffilm wyddonias a ysgrifennwyd, cynhyrchwyd a chyfarwyddwyd gan Christopher Nolan yw Inception (2010). Serenna'r ffilm Leonardo DiCaprio, Ken Watanabe, Joseph Gordon-Levitt, Marion Cotillard, Elliot Page, Tom Hardy, Cillian Murphy, Dileep Rao, Tom Berenger, a Michael Caine. Chwaraea DiCaprio ran Dom Cobb, ysbïwr arbenigol neu leidr ysbïol corfforaethol. Ei waith yw cipio gwybodaeth sydd o werth masnachol o isymwybod meddyliau ei dargedau pan maent yn cysgu ac yn breuddwydio. Am nad yw ef yn medru ymweld â'i blant, rhoddir cynnig i Cobb er mwyn iddo fedru dychwelyd i'w hen fywyd ond er mwyn cael hyn rhaid iddo wireddu tasg sydd bron yn amhosib, sef "inception", sef plannu syniad yn isymwybod ei darged.[1]
![]() Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Christopher Nolan |
Cynhyrchydd | Christopher Nolan Emma Thomas |
Ysgrifennwr | Christopher Nolan |
Addaswr | Mark Heyman Andres Heinz John McLaughlin |
Serennu | Leonardo DiCaprio Ken Watanabe Joseph Gordon-Levitt Marion Cotillard Elliot Page Cillian Murphy Tom Hardy Dileep Rao Tom Berenger Michael Caine |
Cerddoriaeth | Hans Zimmer |
Sinematograffeg | Wally Pfister |
Golygydd | Lee Smith |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Legendary Pictures Syncopy Films |
Dosbarthydd | Warner Bros. Pictures |
Dyddiad rhyddhau | 16 Gorffennaf 2010 |
Amser rhedeg | 142 munud |
Gwlad | Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Cyllideb | $160 miliwn |
Refeniw gros | $823,576,195 |
Cyfeiriadau Golygu
- ↑ Eisenberg (5 Mai 5, 2010). Updated ‘Inception’ Synopsis Reveals More. Screen Rant.