Ioga Rāja
Mewn testunau Sansgrit roedd ioga Raja yn ddau beth: hwn oedd nod ioga, a hwn hefyd oedd y dull o'i gyrraedd, ei gyflawni. Daeth y term hefyd yn enw modern ar gyfer ymarfer yoga[1][2] yn y 19g pan roddodd Swami Vivekananda ei ddehongliad o Swtrâu Ioga Patanjali yn ei lyfr Ioga Raja.[3] Ers hynny, mae ioga Rāja wedi cael ei alw'n ioga aṣṭāṅga, ioga brenhinol, yr undeb brenhinol, Rajayoga, marg sahaja, ac ioga clasurol.
Enghraifft o'r canlynol | mudiad crefyddol, Hindŵaeth |
---|---|
Math | ioga |
Gwladwriaeth | India |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad a defnydd
golyguYstyr Rāja (Sansgrit: राज) yw "prif, gorau o'i fath" neu "brenin".[4] Felly mae yoga Rāja yn cyfeirio at "y prif ioga, neu'r ioga gorau".
Mae'r defnydd hanesyddol o'r term Ioga Rāja i'w gael mewn cyd-destunau eraill, sy'n dra gwahanol i'w ddefnydd modern. Mewn testunau Sansgrit hynafol a chanoloesol, roedd yn golygu'r cyflwr uchaf o ymarfer ioga (lle mae'r iogi'n cyrraedd y cyflwr samadhi).[2] Mae Ioga Hatha Pradipika, er enghraifft, yn nodi bod ioga Hatha yn un o'r ffyrdd i gyflawni yoga Rāja.
Trafodir yoga Rāja yn Upanishad Yogatattva.[5] Yna mae'n cael ei grybwyll mewn sylwebaeth o'r 16g ar gam penodol yn Swtrâu Ioga Patanjali.[1] Mae gwaith Tantrig yr oesoedd canol Dattātreyayogaśāstra yn esbonio mewn 334 shlokas egwyddorion pedwar math o iogas: ioga Mantra, ioga Hatha, ioga Laya a ioga Raja.[6] Dywed Alain Daniélou fod ioga Rāja yn llenyddiaeth hanesyddol Hindŵaidd, ac yn un o bum dull hysbys o ioga, a'r pedwar arall oedd ioga Hatha, ioga Mantra, ioga Laya a ioga Shiva.[7] Mae Daniélou yn ei gyfieithu fel "y ffordd Frenhinol i ailintegreiddio'r Hunan â'r Hunan Cyffredinol (Brahman)".
Yn y 19g gwnaeth Swami Vivekananda y cysylltiad rhwng ioga raja â ioga Sūtrâu Patañjali.[1][2][3] Mae'r ystyr hwn yn wahanol i'r ystyr yn yr Ioga Hatha Pradīpikā, testun y Natha sampradaya.[8]
Mae'r Brahma Kumaris, mudiad crefyddol newydd, yn dysgu math o fyfyrdod y mae'n ei alw'n "Ioga Raja" ond nad oes a wnelo dim oll â phraeseptau ioga Hatha na Ioga Sūtrâu Patañjali.[1]
Mae dehongliadau a llenyddiaeth fodern sy'n trafod ioga Raja yn aml yn rhoi'r clod i Yogasūtras gan Patañjali fel ffynhonnell, ond nid yw llawer ohonynt yn mabwysiadu dysgeidiaeth na sylfeini athronyddol yr ysgol Ioga Hindŵaidd.[9] Mae'r cymysgu cysyniadau hyn wedi arwain at ddryswch wrth ddeall llenyddiaeth Indiaidd hanesyddol a modern ar Ioga.[2][8]
Fel math o ioga
golyguMae rhai testunau Indiaidd canoloesol ar Ioga yn rhestru Rajayoga fel un o lawer math o ioga.[10] Er enghraifft, mae Ioga Sarvanga pradipikå o'r 17g, sy'n sylwebaeth gan Sundardas, yn dysgu tri tetrad o iogas.
- Y grŵp cyntaf yw ioga Bhakti, ioga Mantra, ioga Laya, ac ioga Carcha;
- yr ail yw ioga Hatha, ioga Raja, ioga Laksha, a ioga Ashtanga
- a'r trydydd yw ioga Samkhya, ioga Jñana, ioga Brahma, ac ioga Advaita.
O'r deuddeg, dywed Sundardas mai Rajayoga yw'r ioga gorau. [10]
Fel system ioga Patanjali
golyguUn ystyr ioga Raja yw'r system fodern a gyflwynwyd gan Swami Vivekananda, pan oedd yn cyfateb ioga raja â Swtrâu Ioga Patanjali.[2][1][3] Ar ôl ei gyhoeddi yn hanner cyntaf y mileniwm 1af, cafodd ei adolygu gan lawer o ysgolheigion Indiaidd, ac yna cyhoeddwyd eu Bhāṣya, sef nodiadau a sylwebaeth arno. Gyda'i gilydd, maent yn ffurfio canon o'r enw Pātañjalayogaśāstra ("Ysgrifau ar Ioga Patañjali").[11] [12]
Yn ôl Axel Michaels, mae'r Sutras Ioga wedi'u hadeiladu ar ddarnau o destunau a thraddodiadau o India hynafol.[13] Yn ôl Feuerstein, mae'r Sutras Ioga yn gyddwysiad o ddau draddodiad gwahanol, sef "ioga wyth aelod" (ioga ashtanga) ac ioga gweithredu (ioga kriya).[14] Mae'r rhan ioga kriya wedi'i chynnwys ym mhennod 1, pennod 2 adnod 1-27, pennod 3 ac eithrio pennill 54, a phennod 4.[14] Disgrifir yr "ioga wyth aelod" ym mhennod 2 adnod 28-55, a pennod 3 adnod 3 a 54. [14]
Gweler hefyd
golygu- Raja: Gŵyl pedwar niwrnod
- Ioga Hatha
- Ioga Kriya
- Ioga Kundalini
- Ioga Bhakti
- Cittabhumi
- Ioga Jnana
- Ioga Karma
Darllen pellach
golygu- Maas, Philipp A. (2006), Samādhipāda: das erste Kapitel des Pātañjalayogaśāstra zum ersten Mal kritisch ediert, Aachen: Shaker, ISBN 3-8322-4987-7
- White, David Gordon (2014), The Yoga Sutra of Patanjali: A Biography, Princeton University Press
- Wood, Ernest (1951). Practical Yoga, Ancient and Modern, Being a New, Independent Translation of Patanjali's Yoga Aphorisms. Rider and Company.
- Alain Daniélou (1991), Ioga: Meistroli Cyfrinachau Mater a'r Bydysawd ,ISBN 978-0892813018, Atodiad D: Prif Draethodau Sansgrit ar Ioga
- White, David Gordon (2011), Yoga, Brief History of an Idea (Chapter 1 of "Yoga in practice"), Princeton University Press, http://press.princeton.edu/chapters/i9565.pdf
- Feuerstein, Georg (1978), Handboek voor Yoga (Dutch translation; English title Textbook of Yoga, Ankh-Hermes
- Larson, Gerald James (1998), Classical Sāṃkhya: An Interpretation of Its History and Meaning, London: Motilal Banarasidass, ISBN 81-208-0503-8, https://books.google.com/books?id=Ih2aGLp4d1gC
- Larson, Gerald James (2008), The Encyclopedia of Indian Philosophies: Yoga: India's philosophy of meditation, Motilal Banarsidass, ISBN 978-81-208-3349-4, https://books.google.com/books?id=p6pURGdBBmIC
- Maehle, Gregor (2007), Ashtanga Yoga: Practice and Philosophy, New World Library
- Mallinson-1, James (2011), "Hatha Yoga", Brill Encyclopedia of Hinduism Vol.3, BRILL
- Mallinson-2, James (2011), "Nāth Sampradāya", Brill Encyclopedia of Hinduism Vol.3, BRILL
- Michaels, Axel (2004). Hinduism: Past and Present. Princeton University Press. ISBN 0-691-08952-3.
- Whicher, Ian (1998), The Integrity of the Yoga Darsana: A Reconsideration of Classical Yoga, SUNY Press
Dolenni allanol
golygu- Ymarferion ioga Thai Journal of Physiolog Sciences (yn cymharu Raja yoga ag iogas eraill)
- Raja Yoga Meditation Archifwyd 2021-05-18 yn y Peiriant Wayback Yoga Spirit Life (yn disgrifio 8 aelod o Raja yoga)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Jason Birch (2013), Råjayoga: The Reincarnations of the King of All Yogas, International Journal of Hindu Studies, Volume 17, Issue 3, pages 401–444
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Mallinson-1 2011.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Swami Vivekananda, Raja Yoga, ISBN 978-1500746940 Gwall cyfeirio: Tag
<ref>
annilys; mae'r enw "vivekarajayoga" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol - ↑ rAja Monier-Williams' Sanskrit-English Dictionary, Cologne Digital Sanskrit Lexicon, Germany
- ↑ Ayyangar, TR Srinivasa (1938). The Yoga Upanishads. The Adyar Library. t. 301.
- ↑ Antonio Rigopoulos (1998), Dattatreya: The Immortal Guru, Yogin, and Avatara, State University of New York Press, ISBN 978-0791436967, page 62
- ↑ Alain Daniélou (1991), Yoga: Mastering the Secrets of Matter and the Universe, ISBN 978-0892813018, Chapters 1-12
- ↑ 8.0 8.1 Mallinson-2 2011.
- ↑ Jason Birch (2013), Råjayoga: The Reincarnations of the King of All Yogas, International Journal of Hindu Studies, Volume 17, Issue 3, page 404-406
- ↑ 10.0 10.1 Jason Birch (2013), Råjayoga: The Reincarnations of the King of All Yogas, International Journal of Hindu Studies, Volume 17, Issue 3, pages 415-416
- ↑ Maas 2006.
- ↑ Larson, p. 21–22.
- ↑ Michaels 2004, t. 267.
- ↑ 14.0 14.1 14.2 Feuerstein 1978, t. 108.