Emyr Llywelyn

ysgrifennwr (1941- )
(Ailgyfeiriad o Emyr Llewelyn)

Ymgyrchwr gwleidyddol Cymreig yw Emyr Llywelyn (ganwyd 26 Chwefror 1941),[1] a oedd yn weithgar yn ystod y 1960au a'r 1970au, sefydlwyd Mudiad Adfer ar sail ei athroniaeth ef, Owain Owain a'r Athro J. R. Jones. Mae'n cael ei adnabod hefyd gan ei lysenw Emyr Llew. Mae'n fab i'r nofelydd a'r bardd T. Llew Jones, ac yn frawd i'r chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Ceredig Jones.

Emyr Llywelyn
Ganwyd1941 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadT. Llew Jones Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn 1941 yn Sir Aberteifi. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Coed-y-bryn, Ysgol Ramadeg Llandysul, a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth.

Mae'n un o sefydlwyr a golygyddion y misolyn Cymraeg Y Faner Newydd.

Fe'i carcharwyd yn 1963 am wneud difrod i safle adeiladu argae Tryweryn; dedfryd o 12 mis o garchar.[2][3][4] Cyhoeddodd ar unwaith na fyddai'n defnyddio trais eto. Tra'n Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith sicrhaodd fod y Gymdeithas yn mabwysiadu polisi di-drais.

Bu'n gweithio fel athro Cymraeg am sawl degawd, ym Mhort Talbot ac Aberaeron, ac mae'n byw yn Ffostrasol, Ceredigion erbyn hyn.

Emyr Llew yn annerch y brotest yn erbyn Arwisgiad Siarl o Loegr yng Nghilmeri, 1969. Llun: J. I. Daniel.

Llyfryddiaeth golygu

  • Adfer a'r Fro Gymraeg (Lerpwl a Phontypridd: Cyhoediadau Modern Cymreig, 1976)
  • Llwybrau Llên (Y Lolfa, 2005)
  • Cyfres Ti'n Jocan: Hiwmor y Cardi (Y Lolfa, 2006)
  • Themâu ein Llên: Blas ar Themâu ein Llenorion (Y Lolfa:2007)

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Manylion cyfarwyddwr Cymdeithas Y Faner Newydd - Ty'r Cwmnniau. Adalwyd ar 3 Mawrth 2016.
  2.  Tryweryn. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  3.  Boddi cwm yn newid hanes?. BBC (12 Chwefror 2003).
  4.  E. Wyn James (2005 Annual). Painting the world green: Dafydd Iwan and the Welsh protest ballad. Folk Music Journal.