Irkutsk
dinas yn Rwsia
Dinas yn Rwsia yw Irkutsk (Rwseg: Иркутск), sy'n ganolfan weinyddol Oblast Irkutsk yn rhanbarth gweinyddol Dosbarth Ffederal Siberia. Poblogaeth: 587,891 (Cyfrifiad 2010), sy'n ei gwneud yn un o'r ddinasoedd mwyaf yn Siberia.
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 623,736 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Dmitry Berdnikov |
Cylchfa amser | Irkutsk Time, UTC+08:00 |
Gefeilldref/i | Pforzheim, Shenyang, Ulan Bator, Kanazawa, Eugene, Novi Sad, Évian-les-Bains, Strömsund Municipality, Pordenone, Grenoble, Dijon, Simferopol, Krasnoyarsk, Gangneung, Białystok |
Daearyddiaeth | |
Sir | Irkutsk Urban Okrug |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 277 km² |
Uwch y môr | 440 metr |
Gerllaw | Afon Angara, Afon Irkut, Ushakovka, Irkutsk Reservoir |
Yn ffinio gyda | Irkutsky District, Rhanbarth Angarsky |
Cyfesurynnau | 52.28°N 104.3°E |
Cod post | 664000–664999 |
Pennaeth y Llywodraeth | Dmitry Berdnikov |
Sefydlwydwyd gan | Jakov Pokhabov |
Fe'i lleolir yn Siberia, ar lan Afon Angara, un o lednentydd Afon Yenisei, 72 cilometer (45 milltir) o'i tharddle yn Llyn Baikal. Enwir y ddinas ar ôl afon lai, Afon Irkut, sy'n llifo i Afon Angara gyferbyn i Irkutsk. Amgylchynir y ddinas gan goedwigoedd y taiga, sy'n gorchuddio'r bryniau isel sydd o'i hamgylch.
Sefydlwyd y ddinas yn 1661. Mae'n gorwedd ar y Rheilffordd Traws-Siberia sy'n ei chysylltu gyda Moscfa, prifddinas Rwsia. Ceir maes awyr rhyngwladol ar gyrion y ddinas.
Dolenni allanol
golygu- (Rwseg) Gwefan swyddogol y ddinas Archifwyd 2007-03-12 yn y Peiriant Wayback