Is-etholiad Clacton, 2014

Cynhaliwyd Is-etholiad Clacton, 2014 ar ddydd Iau y 9 Hydref 2014,[1] er mwyn ethol Aelod Seneddol i Dŷ'r Cyffredin dros etholaeth Clacton yn Essex, Lloegr.[2][3][4][5] Galwyd yr etholiad gan i'r Aelod a oedd yn cynrychioli'r etholaeth (sef Douglas Carswell), newid ei aelodaeth o'r Blaid Geidwadol i'r UK Independence Party (UKIP) ac ymddiswyddo fel Aelod Seneddol.[6] Golygai hyn fod y sedd yn wag ac ail-safodd am ei sedd ei hun, a'i chipio.

Douglas Carswell
Is-etholiad Clacton, 2014

← 2010 9 Hydref 2014 2015 →
 
Ymgeisydd Douglas Carswell Giles Watling Tim Young
Plaid UKIP Plaid Geidwadol (DU) Y Blaid Lafur (DU)
Pleidlais boblogaidd 21,113 8,709 3,957
Canran 59.7 24.6 11.2

Map yn dangos Etholaeth Clacton o fewn Essex.

AS cyn yr etholiad

Douglas Carswell
Y Blaid Geidwadol (DU)

Etholwyd AS

Douglas Carswell
UKIP

Is-etholiad 2014: Clacton
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
UKIP Douglas Carswell 21,113 59.7 N/A
Ceidwadwyr Giles Watling 8,709 24.6 -28.4
Llafur Tim Young 3,957 11.2 -13.8
Y Blaid Werdd Chris Southall 688 1.9 +0.7
Democratiaid Rhyddfrydol Andrew Graham 483 1.4 -11.5
Annibynnol Bruce Sizer 205 0.6 N/A
Monster Raving Loony Alan "Howling Laud" Hope 127 0.4 N/A
Annibynnol Charlotte Rose 56 0.2 N/A
Mwyafrif 12,404 35.1
Nifer pleidleiswyr 35,338 51
UKIP yn disodli Ceidwadwyr Gogwydd +44.1

Cadwodd Carswell ei sedd a chlensiodd 59.7% o'r bleidlais, gan ddod yn Aelod Seneddol - y sedd gyntaf i UKIP ei hennill, er iddi gipio seddau yn etholiadau Ewrop cyn hynny. Y Ceidwadwyr a ddaeth yn ail yn y ras a'r Blaid Lafur ddaeth yn drydydd. Yn ôl John Curtice, athro ym Mhrifysgol Ystrad Clud, dyma'r canlyniad uchaf erioed yn hanes etholiadau o fewn y DU o ran cynnydd yn nifer y bleidlais i unrhyw blaid.[7]

Torrwyd sawl record yn yr is-etholiad hwn, yn rhannol oherwydd y sefyllfa anarferol lle caed Aelod Seneddol gyda mwyafrif mawr yn ymgeisio'n llwyddiannus am ei swydd ei hun dan faner plaid arall; roedd hyn yn sefyllfa anarferol iawn. Yn ychwanegol at hyn, roedd y blaid a gipiodd y sedd wedi gweld twf eithriadol mewn poblogrwydd cyn ac yn ystod yr etholiad, ac roedd y duedd tuag at UKIP. Yn drydydd, fel sy'n digwydd yn y rhan fwyaf o is-etholiadau, cafwyd pleidlais o brotest yn erbyn y blaid sydd mewn llywodraeth h.y. y Ceidwadwyr.

Roedd y gogwydd hefyd yn uchel, ond yn 0.1% yn llai na'r record o 44.2% a welwyd yn Is-etholiad Bermondsey yn 1983, tuag at y Democratiaid Rhyddfrydol. Gwelwyd lleihad o ran pleidlais y Ceidwadwyr o 28.4% - yr 16ed gwaethaf i unrhyw blaid ers yr Ail Ryfel Byd. Dim ond 1.4% o'r bleidlais a gafodd y Democratiaid Rhyddfrydol, a dyma'r bleidlais isaf erioed i unrhyw blaid gydnabyddiedig (neu Brydain gyfan) ers y rhyfel.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Clacton by-election to be held on 9 October, BBC News, Adalwyd 6 Medi 2014
  2. Chancellor makes Douglas Carswell's resignation official, ITV; adalwyd 6 Awst 2014
  3. BBC News "Stuart Wheeler: More Tory defections to UKIP 'odds on'"; Adalwyd 6 Medi 2014
  4. Daily Telegrapph: Douglas Carswell's shock defection to UKIP triggers by-election battle; Adalwyd 6 Medi 2014
  5. ITV News Carswell and Farage in Clacton Ahead of by-election; Adalwyd 6 Hydref 2014
  6. Tory MP Douglas Carswell defects to Ukip and forces byelection, The Guardian'; 28 Awst 2014; adalwyd 6 Medi 2014
  7. "Ukip surge sends tremors through Westminster". ft.com. 10 Hydref 2014. Cyrchwyd 10 Hydref 2014.
  8. Curtice, John (10 Hydref 2014). "Clacton by-election: Statistics of Douglas Carswell's win". News online: politics. BBC. Cyrchwyd 10 Hydref 2014.