Agor y brif ddewislen

Gwleidydd o Gymro oedd Clement Edward Davies (19 Chwefror 188423 Mawrth 1962). Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Maldwyn o 1929 i 1962 ac arweinydd Y Blaid Rhyddfrydol rhwng 1945 a 1956.[1]

Clement Davies
Clement Davies.jpg
Ganwyd 19 Chwefror 1884 Edit this on Wikidata
Llanfyllin Edit this on Wikidata
Bu farw 23 Mawrth 1962 Edit this on Wikidata (78 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Swydd arweinydd y Blaid Ryddfrydol, Aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 42fed Llywodraeth y DU, Aelod o 41fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 40fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 39fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 38ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Cynnwys

Bywyd PersonolGolygu

Ganwyd Davies yn Llanfyllin, y ieuengaf o saith blentyn Moses Davies, arwerthwr ac henadur ar Gyngor Sir Drefaldwyn ac Elizabeth Margaret (née Jones) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol Sir Llanfyllin a Neuadd y Drindod, Caergrawnt lle raddiodd gyda gradd dosbarth gyntaf yn y gyfraith ym 1907.[2]

Priododd Jano Elizabeth Davies, merch fabwysiedig Morgan Davies, llawfeddyg Cymreig amlwg yn Llundain; bu iddynt tri mab ac un ferch, ond bu dau o'r meibion a'r ferch marw yn eu hugeiniau.[3]. Bu farw eu mab hynaf, David, ym 1939 o ganlyniad i achosion naturiol cysylltiedig ag epilepsi, bu i'r ferch, Mary, marw drwy hunanladdiad ym 1941 a chafodd mab arall, Geraint, ei ladd ar wasanaeth filwrol ym 1942.

GyrfaGolygu

Wedi graddio o Gaergrawnt bu Davies yn darlithio yn y gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth[4] o 1908 i 1909 cyn cael ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn. Bu'n gweithredu fel bargyfreithiwr yng Nghylchdaith Gogledd Cymru am flwydd cyn symud i Gylchdaith Gogledd Lloegr ym 1910.

Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 gwirfoddolodd Davies ar gyfer gwasanaeth milwrol, ond cafodd ei bostio yn lle hynny i swyddfa'r Procuradur Cyffredinol fel cynghorydd ar weithgareddau'r gelyn mewn gwledydd niwtral ac ar y môr, wedyn cafodd secondiad i adran masnachu gyda'r gelyn y Bwrdd Masnach.

Wedi'r rhyfel bu'n ysgrifennydd i lywydd y Llys Profiant, Ysgariad, a'r Morlys o 1918 i 1919. Bu'n ysgrifennydd i Feistr y Rholiau o1919 i 1923 ac o 1919 hyd 1925 bu'n gwnsler iau i'r Trysorlys.

Fe'i gwnaed yn Gwnsler y Brenin ym 1926.

O 1935 hyd ei farwolaeth bu'n gwasanaethu fel cadeirydd Llysoedd Sesiwn Chwarterol Sir Drefaldwyn.

Rhoddodd y gorau i'w waith gyfreithiol ym 1930 pan ymunodd â bwrdd cwmni Unilever, gan barhau'n aelod o'r bwrdd hyd 1941 pan ymddiswyddodd er mwyn canolbwyntio ar ei waith gwleidyddol.

 
Car Clement Davies wedi ddamwain ger Feifod, 1953

Gyrfa WleidyddolGolygu

Cafodd Davies ei ethol i Dŷ'r Cyffredin yn Etholiad Cyffredinol 1929 fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Sir Drefaldwyn. Yn  fuan wedi ei ethol, ym 1931, rhannodd y Blaid Ryddfrydol yn dri grŵp gyda Davies yn ymuno a grŵp y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol a oedd yn cefnogi'r Llywodraeth. Daeth dan bwysau cynyddol gan ei gymdeithas Ryddfrydol leol a'i ragflaenydd fel Aelod Seneddol, yr Arglwydd Davies i ymuno a'r wrthblaid[5]. Ym 1939, ymddiswyddodd o'r Rhyddfrydwyr Cenedlaethol a chwip y Llywodraeth Genedlaethol, er hynny ym 1940, fe fu'n gadeirydd y Grŵp Gweithredu Holl Bleidiol a oedd yn pwyso am lywodraeth unedig i reoli dros gyfnod yr Ail Ryfel Byd gan chwarae rôl sylweddol yn yr ymgyrch i orfodi ymddiswyddiad y Prif Weinidog, Neville Chamberlain.

Yn ystod ei gyfnod fel aelod o'r meinciau cefn bu Davies yn gwasanaethu ar nifer o bwyllgorau, gan wneud gwaith bellgyrhaeddol ym maes iechyd cyhoeddus. Bu'n gadeirydd ar ymchwiliad i achosion y ddarfodedigaeth yng Nghymru rhwng 1937 a 1938 ymchwiliad a daeth o hyd i ddiffygion difrifol o ran darparu gwasanaethau iechyd cyhoeddus a thai, er bu'n rhaid disgwyl tan ddiwedd y Rhyfel cyn gweithredu ar argymhellion ei bwyllgor, bu ei waith yn garreg filltir bwysig yn natblygiad gweinyddiaeth iechyd yng Nghymru.

Arweinydd y Blaid RyddfrydolGolygu

Ym 1945 collodd Archibald Sinclair, Arweinydd y Blaid Ryddfrydol, ei sedd, ac mewn chwalfa i'w blaid bu Davies yn un o ddim ond dwsin o aelodau Rhyddfrydol i gael eu dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin. Roedd chwech o'r ASau yn aelodau newydd o'r Tŷ, gan adael y blaid efo pwll bas o ddarpar arweinwyr newydd; ymysg yr hen bennau roedd David Lloyd George, a oedd yn amlwg, yn tynnu at derfyn ei yrfa wleidyddol a Megan Lloyd George, benyw mewn cyfnod pan oedd y cysyniad o AS benywaidd yn newyddbeth, a'r cysyniad o arweinydd plaid fenywaidd yn chwyldroadol o hurt; cafodd Davies ei ethol fel arweinydd newydd y Blaid yn ddiofyn, braidd, yn niffyg dewis amgen. Roedd Davies, ei hun, yn gweld ei etholiad i'r arweinyddiaeth fel dewis "gofalwr" wrth ddisgwyl i Sinclair cael ei ail ethol mewn isetholiad, ond methodd Sinclair i gael ei ail ethol, gan hynny, bu Davies yn arwain y blaid am gyfnod o ddeuddeng mlynedd.

Cafodd Davies ei godi i'r Cyfrin Gyngor ym 1947.

Cyfnod o drai pellach i'r Rhyddfrydwyr bu cyfnod Davies fel arweinydd, ond cyfnod o gadw'r blaid yn fyw hefyd. Gwrthododd cais gan Winston Churchill am gytundeb etholiadol yn etholiad cyffredinol 1950, gwrthododd cynnig sedd yng nghabinet Churchill ym 1951 a chynnig Churchill i'r ddwy blaid uno yn yr un flwyddyn. Oni bai am Davies fyddai'r Blaid Ryddfrydol heb barahu i fodoli a gweld y cynnydd yn ei gynrychiolaeth Seneddol o dan Jo Grimond, Jeremy Thorpe na David Steel, cyn i'r Blaid Ryddfrydol darfod trwy uno a'r SDP ym 1987.

Roedd Davies yn lladmerydd y syniad o Un Llywodraeth i'r Byd i Gyd, ac yn llywydd y Gymdeithas Seneddol dros Lywodraeth Bydol; cafodd ei enwebu am Wobr Heddwch Nobel ym 1955 am ei gyfraniad at geisio creu Llywodraeth Byd Eang, ond ni fu'r enwebiad yn llwyddiannus.

MarwolaethGolygu

Ers colli tri o'i blant yn olynol rhwng 1939 a 1942, bu Davies yn ceisio cysur trwy or-yfed, a bu'n byw efo cyflwr alcoholiaeth hyd iddi achosi ei farwolaeth mewn clinig yn Llundain yn 68 mlwydd oed.[6]

LlyfryddiaethGolygu

Clement Davies - Liberal Leader Alun Wyburn-Powell, Politico's Books 2003, isbn-9781902301976

CyfeiriadauGolygu

  1. Francis Boyd, ‘Davies, Clement Edward (1884–1962)’, rev. Mark Pottle, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2008 adalwyd 8 Ion 2016
  2. Y Bywgraffiadur Cymreig DAVIES, CLEMENT EDWARD (1884 - 1962) [1] adalwyd 8 Ion 2016
  3. ‘DAVIES, Rt Hon. Clement (Edward)’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 8 Ion 2016
  4. "ABERYSTWYTH - Y Negesydd". Cwmni Gwasg Idris. 1907-12-19. http://hdl.handle.net/10107/3821330. Adalwyd 2016-01-08.
  5. Dutton, David Liberals in Schism: A History of the National Liberal Party
  6. "Mr. Clement Davies." Times [London, England] 24 Mar. 1962: 10. The Times Digital Archive. Web. 8 Jan. 2016.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
David Davies
Aelod Seneddol dros Faldwyn
19291962
Olynydd:
Emlyn Hooson
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Archibald Sinclair
Arweinydd y Blaid Ryddfrydol
19451956
Olynydd:
Jo Grimond