Isabel Oyarzábal Smith
Ffeminist a newyddiadurwr o Sbaen oedd Isabel Oyarzábal Smith (12 Mehefin 1878 - 28 Mai 1974) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel diplomydd, actores a chyfieithydd.
Isabel Oyarzábal Smith | |
---|---|
Ffugenw | Beatriz Galindo, Isabel de Palencia |
Ganwyd | 12 Mehefin 1878 Málaga |
Bu farw | 28 Mai 1974 Dinas Mecsico |
Dinasyddiaeth | Sbaen |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, diplomydd, actor, cyfieithydd, golygydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Swydd | ambassador of Spain to Sweden, ambassador of Spain to Finland |
Priod | Ceferino Palencia Tubau |
Fe'i ganed yn Málaga, Andalucía, Sbaen yn 1878 a bu farw yn Ninas Mecsico.[1][2][3][4][5]
Gwaith
golyguSwydd gyntaf Oyarzábal oedd fel athrawes Sbaeneg yn Sussex, Lloegr. Ar ôl marwolaeth ei thad, cyfarfu â Ceferino Palencia, mab yr actores María Tubau. Dywedodd Oyarzábal wrth Palencia am ei dymuniad i ddod yn actores a threfnodd Palencia iddi gymryd rhan yn y ddrama Pepita Tudó. Ysgrifennai lawer, a chyda'i ffrind Raimunda Avecilla a'i chwaer Ana Oyarzábal golygodd y cylchgrawn La Dama y la Vida Ilustrada. Roedd hefyd yn ohebydd ar gyfer Biwro Newyddion Laffan a'r papur newydd The Standard. [6]
Yn 1909 priododd â Palencia a gweithiodd i'r cylchgronau Sbaeneg Blanco y Negro, El Heraldo, Nuevo Mundo a La Esfera.
Yr awdures
golyguYn 1926, ysgrifennodd lyfr llên gwerin Sbaeneg o'r enw El traje regional de España (Gwisgoedd Rhanbarthol Sbaen). Ym 1930 hi oedd yr unig fenyw yn y Comisiwn Caethwasiaeth Parhaol yng Nghynghrair y Cenhedloedd. Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen roedd yn llefarydd dros y Weriniaeth a galwodd am ddiddymu'r Cytundeb yn Erbyn Ymyrraeth Rhyngwladol yng nghyfarfod y Blaid Lafur ym mis Hydref 1936 yn yr Alban. Fe'i penodwyd yn Llysgennad i Sweden ar gyfer Gweriniaeth Sbaen tua diwedd 1936. Yn 1939, adleolodd gyda'i theulu i Fecsico lle bu'n ysgrifennu tan ei marwolaeth ym 1974.[7]
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Gymdeithas Genedlaethol Menywod Sbaen am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad geni: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad marw: https://dialnet.unirioja.es/descarga/articulo/3932762.pdf. dyddiad cyrchiad: 18 Tachwedd 2017. tudalen: 61.
- ↑ Man geni: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Commire, Anne, gol. (2002). "Palencia, Isabel de". Women in World History: A Biographical Encyclopedia. Waterford, Connecticut: Yorkin Publications. ISBN 0-7876-4074-3. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-24. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help); Unknown parameter|subscription=
ignored (help)