Izola
Mae Izola (ynganiad Slofeneg: [ˈíːzɔla]; Eidaleg: Isola [ˈiːzola]) yn hen dref bysgota yn ne-orllewin Slofenia ar arfordir y Môr Adriatig penrhyn Istria. Dyma hefyd sedd bwrdeistref Izola. Mae ei enw yn tarddu o'r gair Eidaleg Isola, sy'n golygu 'ynys'.
Math | dinas, anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 11,682 |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | Dinas Jibwti, Tolentino, Treptow-Köpenick, Szentgotthárd |
Nawddsant | Maurus of Parentium |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Izola |
Gwlad | Slofenia |
Arwynebedd | 28.6 km² |
Uwch y môr | 29 metr, 5 metr |
Cyfesurynnau | 45.54°N 13.66°E |
SI-040 | |
Statws treftadaeth | monument of local significance |
Manylion | |
Hanes
golyguRoedd porthladd ac anheddiad Rhufeinig hynafol o'r enw Haliaetum yn sefyll i'r de-orllewin o'r dref bresennol, wrth ymyl pentref Jagodje, mor gynnar â'r 2g CC.
Sefydlwyd tref Izola ar ynys fach gan ffoaduriaid o Aquileia yn y 7g. Daeth ardaloedd arfordirol Istria dan ddylanwad dinas Fenis yn y 9g. Soniwyd yn gyntaf am yr anheddiad fel Insula mewn dogfen Fenisaidd o'r enw Liber albus yn 932AD.[1] Daeth yn rhan o diriogaeth Gweriniaeth Fenis ym 1267, a gadawodd y canrifoedd o reolaeth Fenisaidd farc cryf a pharhaus ar y rhanbarth. Trosglwyddodd rhan Fenisaidd y penrhyn i Ymerodraeth Lân Rufeinig Sanctaidd Cenedl yr Almaen ym 1797 gyda Chytundeb Campo Formio, hyd at gyfnod rheolaeth Napoleon rhwng 1805 a 1813 pan ddaeth Istria yn rhan o daleithiau Illyria yn rhan o Ymerodraeth Napoleon. Ar ôl y cyfnod byr hwn, pan gafodd waliau Izola eu rhwygo i lawr a'u defnyddio i lenwi'r sianel a oedd yn gwahanu'r ynys o'r tir mawr, dyfarnodd Ymerodraeth Awstria newydd ei sefydlu yn Istria tan fis Tachwedd 1918.[2]
Wedi i Ymerodraeth Awstria-Hwngari golli y Rhyfel Byd Cyntaf dyfarnwyd Isola o dan Gytundeb Saint-Germain a gweddill rhanbarth Istria i'r Eidal. Ar y pryd y boblogaeth Eidalaidd oedd y mwyafrif yn ôl cyfrifiad Austro-Hwngari ym 1900: o 5,363 o drigolion, roedd 5,326 yn siarad Eidaleg, 20 Slofeneg, ac 17 Almaeneg. Arhosodd Isola yn rhan o Deyrnas yr Eidal, tan gapitiwleiddio’r Eidal ym mis Medi 1943, ac yna pasiodd rheolaeth i’r Almaen Natsiaidd. Rhyddhawyd Izola gan uned lyngesol o Koper ddiwedd Ebrill 1945.
Ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd, a Chytundeb Paris yn 1947 dyfarnwyd Izola yn rhan o Barth B o Diriogaeth Rydd Trieste annibynnol dros dro; ar ôl diddymiad de facto y Diriogaeth Rydd yn 1954 fe'i hymgorfforwyd yn rhan o Iwgoslafia gomiwnyddol o dan Tito.[3] Yn sgil y ffin Italo-Iwgoslafia sydd newydd ei diffinio gwelwyd ymfudiad llawer o bobl o un ochr i'r llall. Yn achos Izola, dewisodd llawer o siaradwyr Eidaleg adael, ac yn eu lle ymgartrefodd pobl o Slofenia o bentrefi cyfagos yn y dref.[3]
Ym 1820, darganfuwyd ffynhon thermol yn Izola, gan arwain at ffurfiau twristiaeth cynharaf y dref. Rhwng 1902 a 1935 roedd y Parenzana, llinell reilffordd gul yn cysylltu'r dref â Trieste a Poreč (a elwir yn Parenzo tan 1947).
Marina
golyguMae'r Marina Izola yn un o sawl marina yn yr ardal ac felly'n bwysig ar gyfer twristiaeth yn Izola. Mae gan y marina angorfeydd ar gyfer 700 o gychod hyd at 30 m o hyd. Mae'r marina yn cynnwys cyrchfan wyliau gyda gwesty, cyrtiau tenis, pwll nofio a chasino.[4]
Mae'r marina hefyd yn ganolfan ar gyfer digwyddiadau chwaraeon dŵr fel Cwpan Awstria. Mae rhai regata yn Slofenia yn cael eu hwylio yn yr ardal forwrol o flaen y Marina Izola.
Oriel
golygu-
Izola marina
Enwogion Izola
golygu- Nino Benvenuti (ganwyd: 1938), pencampwr bocsio
- Pietro Coppo (ganwyd 1469 neu 1470; bu farw 1555 neu 1556), daearyddwr a chartograffydd, yn gweithio yn Izola
- Domenico Lovisato (1842–1916), daearegwr
- Darko Milanič (ganwyd 1967), rheolwr pêl-droed
- Vasilij Žbogar (ganwyd 1975), hyrwyddwr hwylio Olympaidd
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Izola-Isola municipal website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-12. Cyrchwyd 2020-05-03.
- ↑ Entry for Izola in the Lonely Planet Guide to Slovenia
- ↑ 3.0 3.1 "Izola Municipality site". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-12. Cyrchwyd 2020-05-03.
- ↑ www.marinaizola.com Archifwyd 2020-04-29 yn y Peiriant Wayback Infos zur Marina. Aufgerufen am 10. März 2014.