Jack Lauterwasser

Seiclwr cystadleuol a peirianwr seiclo Seisnig oedd Jack Lauterwasser (4 Mehefin 19042 Chwefror 2003).[1] Enillodd fedal arian tra'n cynyrchioli Prydain yn nhreial amser y Gemau Olympaidd yn Amsterdam yn 1928.

Jack Lauterwasser
Ganwyd4 Mehefin 1904 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw2 Chwefror 2003 Edit this on Wikidata
Caerfaddon Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethseiclwr cystadleuol Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Ymunodd Lauterwasser â'i glwb seiclo lleol yn Finsbury Park, ac enillodd ei dreial amser 25 milltir cytaf cyn ei benblwydd yn 14 oed. Aeth ymlaen i arbenigo mewn treialon amser pellter hir gan gynnwys rasus 12 awr.

Yn Amsterdam, gorffennodd Lauterwasser yn y bumed safle mewn amser o 5 awr 2 munud a 57 eiliad ar gyfer 165 kilometr. Gorffenodd ei gyd-aelodau tîm, Frank Southall yn ail a John Middleton yn 26ed,[2] Roedd Lauterwasser yn rhan o dîm a enillodd y drydedd safle yn wreiddiol ond rhoddwyd y fedal arian iddynt pan ddiarddelwyd yr Eidal.

Torodd record 50 milltir y Road Records Association (RRA) o bron i tri munud mewn amser o l awr 54 munud a 47 eiliad a'r record 100 milltir o dros 18 munud mewn amser o 4 awr 13 munud a 35 eiliad.

Roedd Lauterwasser yn beirianydd beics galluog, agorodd siop feics yn Llundain yn 1929,yn adeiladu fframiau ar gyfer archebion arbennig a rhoi patent ar ei ddyluniad ar gyfer handlebar.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Teyrnged yn[dolen farw] The Times, 7 Chwefror, 2003.
  2. "History of Norwood Paragon CC - 1928" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2007-10-04. Cyrchwyd 2007-10-04.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Sais neu Saesnes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.