Road Records Association

Corff sy'n gorychwylio recordiau seiclo ar ffyrdd Prydain ydy'r Road Records Association (ond nid mewn rasus confensiynol). Hon yw un o'r cyrff seiclo hynaf yn y byd gan y sefydlwyd yn 1888.

Logo RRA

Sefydlir recordiau gan reidwyr gan deithio pellteroedd penodedig (ee: 25, 50 neu 100 milltir), cyfnodau penodedig o amser (12 neu 24 awr), neu rhwng llefydd (ee: Llundain i Brighton ac yn ôl neu Land's End i John o' Groats). Gall reidwyr ddefnyddio beic, treic neu tandem a derbynir recordiau mewn categoriau dynion, merched ac, ar y tandem, timau cymysg.

Gall recordiau a osidir dros bellter penodedig gael eu cylawni ar gyrsiau sy'n mynd syth allan a all fanteisio ar ddisgyniadau yn y tirwedd a gwyntoedd cryf tu-cefn; mae hyn yn wrthwyned i recordiau a osodir mewn treialon amser, confensiynol ble gofynnir i ddechrau a diwedd y ras fod yn gyfagos er mwyn dileu unrhyw fantair gan yr uchod.

Hanes Cynnar golygu

O 1890 ymlaen, roedd y National Cyclists' Union (corff a sefydlwyd i lywodraethu rasio ym Mhrydain) wedi gwahardd rasio beic ar y ffyrdd agored ond gwnaethwyd rhai eithriadau, torri recordiau i ddechrau ac yna treialon amser.

Galwodd llywydd Clwb Seiclo North Road, A J Wilson, gyfarfod yn 1888 ac yno sefydlwyd y Road Records Association gyda'r pwrpas o ardystio honiadau seiclwyr gwrywaidd ar y ffordd, gan osod safonnau ar gyfer yr amseru a dilysu'r recordiau. Sefydlwyd y Women's Road Record Association yn 1934, a cyfunwyd hwn gyda'r RRA yn 1989.

Roedd Frederick Thomas Bidlake yn dorrwr recordiau proliffig yn ystod yr 1880au ac yn ddiweddarach daeth yn geidwad amser, fel aelod o bwyllgor yr RAA, ef oedd y llywydd o o 1924 hyd ei farwolaeth yn 1933.

Recordiau golygu

Mae'r RRA yn adnabod recordiau ar gyfer:

Mae gan yr RRA grwpiau UK rhanbarthol hefyd sy'n canolbwyntio ar dorri recordiau o fewn eu ardaloedd hwy o'r wlad.

Dolenni allanol golygu