Jada Pinkett Smith

cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm, actores a chyfansoddwr a aned yn Baltimore yn 1971

Mae Jada Koren Pinkett Smith (ganwyd 18 Medi 1971) yn actores, dawnswraig, cantores, cyfansoddwraig, a menyw busnes. Dechreuodd ei gyrfa yn 1990, pan wnaeth ymddangosiad byr yn y rhaglen gomedi byrhoedlog True Colors. O 1991 hyd at 1993, serennodd fel  Lena James yn y gyfres deledu A Different World, a gynhyrchwyd gan Bill Cosby. Ymddangosodd yn ei ffilm gyntaf, Menace II Society, yn 1993, ac yna ymddangosodd gyda Eddie Murphy yn The Nutty Professor (1996). Ers hynny, mae hi wedi ymddangos mewn dros 20 o ffilmiau nodwedd, gan gynnwys Set It Off (1996), Scream 2 (1997), Ali (2001), The Matrix ReloadedThe Matrix Revolutions (2003), Madagascar (2005), Madagascar: Escape 2 Africa (2008), a Madagascar 3: Europe's Most Wanted (2012), ac, yn fwy diweddar, Girls Trip (2017).

Jada Pinkett Smith
GanwydJada Koren Pinkett Edit this on Wikidata
18 Medi 1971 Edit this on Wikidata
Baltimore, Maryland Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Gelf Baltimore
  • Ysgol Gelf Prifysgol Gogledd Carolina
  • Prifysgol Duke Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr-gyfansoddwr, canwr, cyfansoddwr, cynhyrchydd ffilm, cyfansoddwr caneuon, cyfarwyddwr ffilm, ysgrifennwr, actor llais, cerddor, actor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr, sgriptiwr, television personality, person busnes, entrepreneur, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amEnter the Matrix, Madagascar, Gotham, Collateral, The Matrix Revolutions, Ali, Hawthorne, Bad Moms Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth roc, hip hop, rapio Edit this on Wikidata
Taldra152 centimetr Edit this on Wikidata
PriodWill Smith Edit this on Wikidata
PlantJaden Smith, Willow Smith Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y Dyniaethau, David Angell, Gwobr Delwedd NAACP am yr Actores Eithriadol mewn Cyfres Ddrama, Gwobr Delwedd NAACP amWaith Llenyddol Arbennig, Gwobr Time 100 Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.jadapinkettsmith.com/ Edit this on Wikidata

Magwraeth golygu

Ganwyd Jada Koren Pinkett yn Baltimore, Maryland, gan ei galw'n Jada ar ôl hoff actores sebon ei mam: Jada Rowland.[1] Mae Pinkett Smith yn tarddu o deulu Affricanaidd-Americanaidd a Jamaicaidd.[2][3][4]

Lansiodd Jada ei gyrfa gerddorol yn 2002 pan helpodd hi greu'r band metal Wicked Wisdom. Hi sy'n canu ac yn ysgrifennu'r caneuon i'r band hwn. Bu iddi hefyd sefydlu cwmni cynhyrchu, yn ogystal ag ysgrifennu llyfr i blant, Girls Hold Up This World, a gyhoeddwyd yn 2004.

Personol golygu

Mae hi wedi bod yn briod i'r cerddor Will Smith ers 1997. Mae ganddynt ddau o blant, mab o'r enw Jaden a merch o'r enw Willow. Drwy eu priodas mae hi hefyd yn llysfam i fab Will o'i briodas gyntaf, Trey Smith.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Jada Pinkett-Smith Biography". TV Guide. OpenGate Capital. Cyrchwyd 2008-10-06.
  2. "USA WEEKEND Magazine". 159.54.226.237. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-08-26. Cyrchwyd 2018-05-18.
  3. On Her Own Terms – Baltimore Sun Archifwyd 2013-10-05 yn y Peiriant Wayback.. Articles.baltimoresun.com (2004-08-07). Adalwyd 2013-12-30.
  4. Wollman Rusoff, Jane (2009-06-13). "Jada Pinkett Smith returns to the tube on TNT". Reading Eagle. New York Times Syndicate. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-06-13. Cyrchwyd 2011-06-20.