James Llewellyn Davies
Milwr o Gymro oedd James Llewellyn Davies VC (16 Mawrth 1886 – 31 Gorffennaf 1917). Derbyniodd Groes Fictoria, yr addurn milwrol uchaf sy'n cael ei gyflwyno am wroldeb "yng ngŵydd y gelyn" i aelodau'r lluoedd arfog yng ngwledydd y Gymanwlad a chyn diriogaethau'r Ymerodraeth Brydeinig.
James Llewellyn Davies | |
---|---|
Ganwyd | 16 Mawrth 1886 Cwmogwr |
Bu farw | 31 Gorffennaf 1917 Gwlad Belg |
Dinasyddiaeth | Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | person milwrol |
Gwobr/au | Croes Fictoria |
Cefndir
golyguGanwyd Davies yng Nglynebwy, Sir Fynwy, y trydydd o naw o blant i John a Martha Davies. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i weithio fel glöwr yng Nglofa Wyndham ac ym 1906 priododd Elizabeth Ann Richards. Pan ymrestrodd Davies ar 12 Hydref 1914 roedd ganddynt dri o blant.
Dyfarniad y VC
golyguAr 31 Gorffennaf 1917 cafodd Bye ei enwbu am y Groes Fictoria yn dilyn y weithred a ddisgrifir yma:
Am ddewrder o'r mwyaf yn ystod ymosodiad ar linellau'r gelyn, gwthiodd y swyddog di-gomisiwn yma trwy'r saethu er mwyn ymosod ar safle dryll peiriannol ar ben ei hun, wedi i sawl dyn cael ei ladd yn ceisio ei gipio. Trywanodd un o griw'r dryll peiriannol gyda'i fidog a daeth ag aelod arall o'r criw yn ogystal â'r dryll yn ôl. Er ei fod wedi anafu, arweiniodd Cpl. Davies barti bomio i ymosod ar dy lle roedd saethwr cudd yn peri helynt i'w blatŵn. Mae'r swyddog di-gomisiwn gwrol yma bellach wedi marw o'r anafiadau ddioddefodd yn ystod yr ymosodiad.
—London Gazette," No. 30272, 6 Medi 1917[1]
Mae ei Groes Fictoria yn cael ei arddangos yn Amgueddfa Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon, Caernarfon, Gwynedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ London Gazette: (Supplement) no. 30272. p. 9260. 1917-09-04.