metr

Jamie Staff
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnJamie Staff
Dyddiad geni (1973-04-30) 30 Ebrill 1973 (50 oed)
Manylion timau
DisgyblaethBMX a Trac
RôlReidiwr
Math seiclwrSbrint
Prif gampau
Pencampwr y Byd x4
Baner Prydain Fawr Pencampwr Prydain
Gemau'r Gymanwlad x2
Gemau'r Gymanwlad
Golygwyd ddiwethaf ar
4 Hydref 2007

Seiclwr Trac a BMX ydy Jamie Staff (ganwyd 30 Ebrill 1973, Ashford, Caint). Mae wedi ennill nifer o fedalau ym Mhencampwriaethau'r Byd, Cwpanau'r Byd a Gemau'r Gymanwlad.

Proffil golygu

Dechreuodd Jamie reidio BMX yn 9 oed ar ôl gweld ffrindiau'n reidio,[1] ac yn 2002, ef oedd frig y newyddion yn y byd seiclo. Fel reidiwr BMX, roedd wedi ennill bron popeth o Bencampwriaethau'r Byd ac i lawr, penderfynnodd yn 2001 ei fod eisiau ennill medal Olympaidd a gan nad oedd BMX yn un or chwaraeon a gafodd ei gynnwys yn y gemau ar y pryd, trodd ei sylw tuag at sbrintio ar y trac.

Cymhwysodd fel aelod o dîm Prydain yn ei ymgais cyntaf, ers hynnu mae wedi gwneud sawl perfformiad edmygys. Yn gystadleuwr naturiol, mae'n mwynhau natur rhyfelgar seiclo Sbrint a Keirin, er mae ei gampweithiau pennaf hyd yn hyn wedi bod yn nisgyblaethau Sbrint Tîm a'r Kilo.

Bu'n aelod o dîm Lloegr yng Ngemau'r Gymanwlad pan enillont fedal arian yn y Sbrint Tîm, cystadlodd yn rownd cyn-derfynol y sbrint gan dorri record 200 metr cenedlaethol Prydain yn y broses. Enillodd fedal efydd yn y Kilo, tu ôl i'r Albanwyr a'i gyd-aelodau tîm ar dîm Prydain, Chris Hoy a Jason Queally.

Cyflawnodd yn fwy nag oedd disgwyl iddo pan helpodd Brydain ennill medal aur yn Sbrint Tîm Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2002 yn Copenhagen, llai na blwyddyn ar ôl dechrau rasio ar y trac. Yn 2003, cariodd ymlaen gan recordio dau amser gorau personol yn y Kilo ac ennill y gystadleuaeth yng nghymal Mecsico o Gwpan y Byd Trac.[2]

BMX golygu

Roedd Jamie Staff yn un o'r reidwyr a oedd yn cystadly yn yr Unol Daleithiau yng nghyngreiriau cenedlaethol yr ABA (American Bicycle Association) a'r NBL (National Bicycle League) ac roedd yn aml yn gwneud y prif gystadleuaeth AA Pro[1], gan ennill NBL Pro Cenedlaethol 1 (Elet) Dynion (AA) yn 2001, ac ennill Pencampwriaethau BMX y Byd yn 1996. Penderfynnodd ganolbwyntio ar seiclo trac yn 2001 ond mae'n dal i gymryd rhan mewn BMX rwan ac yn y man, er enghraifft yn 2002, cystadlodd yn yr X Games VIII - BMX Downhill).

Canlyniadau golygu

BMX golygu

Trac golygu

2002
1af   Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
2il   Sbrint Tîm, Gemau'r Gymanwlad
3ydd   Kilo, Gemau'r Gymanwlad
2003
1af Kilo, Cymal Mecsico, Cwpan y Byd Trac, UCI
1af Sbrint Tîm, Cymal De Affrica, Cwpan y Byd Trac, UCI
2il Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
2il Sbrint, Cymal Mecsico, Cwpan y Byd Trac, UCI
2004
1af   Keirin, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
3ydd Sbrint Tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI[2]
2006
2il   Sbrint Tîm, Gemau'r Gymanwlad[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "BMX Ultra interview". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-03-23. Cyrchwyd 2007-10-04.
  2. 2.0 2.1 "Gwefan Swyddogol y Gemau Olympaidd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2004-09-01. Cyrchwyd 2007-10-04.
  3. Cyfweliad gyda Archifwyd 2004-04-13 yn y Peiriant Wayback. British Cycling 2004
  4. Gold for Scotland in team sprint BBC 19 Mawrth 2006