Gwaith/Cartref (cyfres S4C)

(Ailgyfeiriad o Gwaith Cartref)

Cyfres ddrama oedd Gwaith/Cartref a ddarlledwyd ar S4C rhwng 2011 a 2018. Mae'n dilyn helyntion disgyblion ac athrawon ysgol yn ne Cymru. Cawn weld bywydau proffesiynol ac allgyrsiol y cymeriadau. O'r gyfres gyntaf, mae'r ddrama wedi sôn am themâu difrifol megis godineb, galar, bwlio, cancr a salwch meddyliol.

Gwaith/Cartref
Genre Drama Teledu
Cyfarwyddwyd gan Dafydd Palfrey
Andy Newbery
Hefin Rees
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 9
Nifer penodau 90
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Sophie Fante
Nora Ostler
Amser rhedeg 60 munud (2011-2015),
30 munud (2016-2017)
60 munud (2018)
Cwmnïau
cynhyrchu
Fiction Factory
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C (2011-2018)
Rhediad cyntaf yn 18 Medi 2011
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Cynhyrchiad

golygu

Yn y pum cyfres cyntaf roedd y gyfres wedi ei leoli yn ysgol ddychmygol "Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf". Darlledwyd y cyfresi gwreiddiol ar nos Sul am 9 y.h. Ar ôl darllediad y gyfres gyntaf yn 2011, cafodd yr ail gyfres ei darlledu yng ngwanwyn 2012, y drydedd gyfres ym Mawrth 2013, y bedwaredd yn Ionawr-Mawrth 2014 a'r pumed yn Ionawr-Mawrth 2015.

Ar gyfer y chweched cyfres yn Ionawr 2016, newidiwyd y rhaglen yn sioe hanner awr wedi ei ddarlledu ar nos Fercher am 8.30 y.h. fel arfer. Symudwyd i ysgol ffuglennol newydd "Porth y Glo" yng Nghwm Rhymni a roedd rhan fwyaf o'r cymeriadau yn newydd.[1] Dangoswyd seithfed cyfres yn Medi 2016 a Tachwedd 2016[2] wythfed cyfres yn Ionawr 2017. Cychwynnodd nawfed cyfres yn Chwefror 2018 gan ddychwelyd i rhaglen awr o hyd.

Cymeriadau presennol

golygu

Cymeriadau blaenorol

golygu
  • Grug Matthews - Athrawes Mathemateg (Rhian Blythe, cyfres 1-5)
  • Beca Matthews - Athrawes Ymarfer Corff (Hannah Daniel, cyfres 1-5)
  • Wyn Rowlands - Athro Cymraeg a Astudiaethau'r Cyfryngau (Richard Elis, cyfres 3-5)
  • Rhydian Ellis – Prifathro (Rhodri Evan, cyfres 1-5)
  • Mrs. Gwen Lloyd – Pennaeth Addysg Grefyddol (Rhian Morgan, cyfres 1-5)
  • Gemma Haddon – Ysgrifenyddes yr ysgol (Siw Hughes, cyfres 1-5)
  • Brynmor Davies - Athro Mathemateg dros dro, yna'n barhaol (Bryn Fôn, cyfres 3-5)
  • Louise Stevenson - Athrawes Anghenion Arbennig (Sara Lloyd)
  • Tanwen Llwyd - Myfyriwr Bro Tâf (Sian Davies)
  • Heuls - Perchennog 'Crwban' a chwaer Aled Jenkins (Elin Llwyd, cyfres 3-5)
  • Miss Perkins - Ysgrifenyddes ysgol (Andrea Edwards, cyfres 1-2)
  • Dan James - Athro Daearyddiaeth (Huw Rhys, cyfres 1-2)
  • Simon Watkins - Athro Daearyddiaeth (Rhys ap Trefor, cyfres 1-2, gwadd cyfres 3)
  • Dewi Pritchard - Athro Hanes (Aled Pugh, cyfres 5)
  • Lisa Morris - Athro Ffrangeg a Pennaeth Gofal Bugeiliol yn Ysgol Llwyn Dafydd (Ffion Williams, cyfres 3-5)
  • Zara Dudek - Dynes cinio yn Ysgol Llwyn Dafydd (Carys Eleri, cyfres 3-5)
  • Jack Lewis - Myfyriwr Bro Tâf. Blwyddyn 10 (Sam Davies)
  • Nerys Edwards - Astudiaeth Drama/Cyfryngau (Catrin Fychan, cyfres 1-2)
  • Aneurin Rees - Athro Mathemateg dan hyfforddiant (Arwyn Jones, cyfres 1)
  • Emyr Tomos - Athro Cymraeg (Lee Haven-Jones, cyfres 1)
  • Sara Harries - Athro Celf (Lauren Phillips, cyfres 1-3)
  • Nadine Smith - Myfyriwr Bro Tâf. Blwyddyn 9 (Manon Grocott, cyfres 3)
  • Llinos Preece - Athro Gwyddoniaeth (Elin Phillips, cyfres 3)
  • Mr Hassan - Rheolwr mosg (Ike Khan, cyfres 3)

Llwyddiannau

golygu
  • Enillydd - Bafta Cymru 2014 am Actores Gorau (Rhian Blythe)
  • Enwebu - Bafta Cymru 2014 am Actores Gorau (Siw Hughes)
  • Enillydd gwobr am gyfres ddrama orau 2013 - Celtic Media Festival yn Abertawe,
  • Enwebu - Bafta Cymru 2013 am Ffotograffiaeth a goleuo (Rory Taylor)
  • Enwebu - Bafta Cymru 2012 am ddylunio cynnyrch (Bill Bryce), Golygu ffuglen (Mike Hopkins a Rhys ap Rhobert) Gwallt a cholur (Gwenno Penrhyn), Gwisg (Sian Jenkins), Drama deledu (Sophie Fante), Actores (Rhian Morgan)[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwaith/Cartref centres around the fictional school Porth y Glo and it's filmed in the Rhymney Valley (en) , WalesOnline, 21 Ionawr 2016. Cyrchwyd ar 2 Mawrth 2016.
  2.  Wynebau newydd yn achosi anhrefn ym Mhorth y Glo. S4C (1 Medi 2016). Adalwyd ar 18 Ionawr 2017.
  3. Fiction Factory

Dolenni allanol

golygu