Jason Kouchak

cyfansoddwr a aned yn 1969

Pianydd, cyfansoddwr a chanwr o Ffrainc yw Jason Kouchak.[1]

Jason Kouchak
Ganwyd1969 Edit this on Wikidata
Lyon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpianydd, canwr-gyfansoddwr, canwr, cyfansoddwr, cyfansoddwr caneuon Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.jasonkouchak.com/ Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Jason Mariano Kouchak yn Lyon, Ffrainc. Cafodd ei addysg cynnar yn Ysgol Westminster ac astudiodd piano clasurol yng Ngholeg Cerdd Brenhinol Llundain a Phrifysgol Caeredin. Mae o’n ddisgynnydd o Aleksandr Kolchak, Cadlywydd Llynges o Rwsia.

Mae Jason Kouchak wedi cyhoeddi pump albwm, recordiodd dau ohonynt yn Stiwdio Ffordd Abaty Llundain. Perfformiodd Jason ei gyfansoddiadau cerddorol ar y BBC a chwmni darlledu Siapan NHK.

Mae o wedi perfformio yn y Royal Festival Hall (Llundain), Salle Pleyel (Paris), a Mariinsky Theatre (St Petersburg) efo datganiadau yng Ngŵyl Rhyngwladol Caeredin.

Perfformiadau eraill gan gynnwys "The Moon represents my Heart" trefnwyd i Julian Lloyd Webber a Jiaxin Cheng yng Nghlwb Celf Chelsea - cyngerdd gala i ddathlu penblwydd 60 Lloyd Webber. Hefyd Cyngerdd Guildhall yn 2010 gyda'r gantores a'r actores Elaine Paige i ddathlu daucanmlwyddiant Chopin.

Canodd hefyd mewn perfformiadau cabaret yn y Café de Paris a’r Café Royal.

Yn 2012 perfformiodd Jason yng Ngŵyl Llenyddol Galle gyda Tom Stoppard ac yn yr un flwyddyn rhoddodd ddatganiad piano yn noson agoriadol y Gwyddbwyll Clasurol Llundain.[2] Hefyd yn 2012 roedd yn Gyfarwyddwr Cerdd yn Llundain a Chaeredin o'r ugeinfed ddathliad o ŵyl Ffilm Ffrainc a perfformiodd ar ddathliad Chopin yn y Llysgenhadaeth Prydeinig ym Mharis.[3]

Ymddangosiadau detholedig

golygu

Ym 1990 i ddathlu penblwydd 60 Y Dywysoges Margaret, gwahoddwyd Jason i berfformio yng Ngwesty Ritz. Hefyd yn yr un flwyddyn gwahoddwyd ef i chwarae'r piano ar noson gyntaf o ddangosiad y ffilm Hamlet gan Franco Zeffirelli.

Perfformiodd Kouchak ei ddehongliad o “Sakura” o flaen Ymherodr Akihito yn Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain a perfformiodd y darn yma hefyd yn 1995 ar amgylchiad elusen daeargryn Kobe. Cafodd y darn yma ei recordio yn 1999 gyda Julian Lloyd Webber ar ei albwm Cello Moods a'i gyflwyno gan sglefrwraig iâ Olympaidd Yuka Sato.[4]

Rhwng 2011-2013 fe berfformiodd Kouchak y gân o Rwsia “Dark is the Night”.[5]

Hefyd yn 2015 perfformiodd “Scheherazade” yn Seremoni Agoriadol Swyddogol yng Ngŵyl Llenyddiaeth Cwmni Hedfan Emirates [6][7] a chyfansoddodd cân destun Swyddogol yr Ŵyl yn 2016.[8]

Cyfraniadau cyhoeddus

golygu

Mae cyfraniadau Kouchak yn cynnwys lansio dau set o wyddbwyll enfawr i blant[9] ym Mharc Holland Llundain gyda Stuart Conquest yn 2010 ac yn Y Meadows (parc) Caeredin yn 2013[10] a set gwyddbwyll John Tenniel o Alys yng Ngwlad Hud.[11] Hefyd cyfansoddodd cân destun swyddogol elusen gwyddbwyll “Moving Forward” i CSC.[12][13]

Yn 2011 sylfaenodd Kouchak Côr Plant Tsubasa i agor Gŵyl Matsuri ac yn 2012 - blwyddyn Jiwbili Y Frenhines - perfformiodd Jupiter allan o Holst's Planets Suite yn Sgwâr Trafalgar, Llundain.

Yn 2016 cafodd ei waith cerddorol gwyddbwyll a bale ei berfformio yn yr Amgueddfa Brydeinig ac yn Efrog Newydd i ddathlu cymeriadau benywaidd fel Breninesau yng ngwyddbwyll.[14][15]

Recordiau

golygu
  • Space Between Notes (2017)
  • Comme d'Habitude (2011)[1]
  • Midnight Classics (2008)[1]
  • Forever (2001)[1]
  • Watercolours (1999)[1]
  • Première Impression – 1997[1]
  • Cello Moods (Sakura)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Kouchak, Jason. "Comme d'Habitude". j. kouchak. Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2017.
  2. "London Chess Classic 2012". londonchessclassic.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-24. Cyrchwyd 30 Tachwedd 2017.
  3. "Media Release: French Film Festival celebrates 20 glorious years". Cyrchwyd 4 Hydref 2017.
  4. "twenty-years-on-from-jason-kouchaks-across-the-water-piano-recitals-in-edinburgh-and-belfast". Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2017.
  5. "London Gala concert in memory of the Arctic Convoys 1941–1945". Dark Night. Cyrchwyd 23 Hydref 2017.
  6. "Love for Word". Love for Word-Salt n Peppa Middle East. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-03-20. Cyrchwyd 4 Hydref 2017.
  7. "Off to a flying start: Dubai's literary feast". VISION. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 11 Mawrth 2015. Cyrchwyd 11 Hydref 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Line up of authors for Emirates Festival of Literature revealed;News". SOCIETY. Cyrchwyd 19 Hydref 2017.
  9. "Making mates on giant chessboard in Holland Park | News". Thisislondon.co.uk. 1 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 25 Tachwedd 2017.
  10. "Giant chess board bid to fight child obesity | News". news.scotsman.com. 17 Ebrill 2013. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2017.
  11. "£350,000 Alice chessboard and a white rabbit at Fortnum's | News". news.standard.co.uk. 24 Ebrill 2013. Cyrchwyd 9 Tachwedd 2017.
  12. "Smart move young man | News". thesundaytimes.co.uk. 30 Mawrth 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-08. Cyrchwyd 11 Hydref 2017.
  13. "CSC Chess in Schools and Communities". chessinschools.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2017.
  14. "Chess & Ballet at the British Museum". chessdom.com. 29 Mawrth 2016. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2017.
  15. "The Queen's Journey". yonkers.com. 30 Medi 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-03. Cyrchwyd 30 Hydref 2017.

Dolenni allanol

golygu