Jathara Parivartanasana (Y Boldro)
Asana, neu osgo'r corff, o fewn ymarferion ioga yw Jathara Parivartanasana (Sansgrit ञठर परिवर्तनासन), neu'r Boldro a gelwir y math hwn o asana yn asana lledorwedd gyda thro; fe'i ceir oddi fewn i Ioga modern fel ymarfer corff.[1][2][3]
Enghraifft o'r canlynol | asana |
---|---|
Math | asanas lledorwedd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Geirdarddiad
golyguDaw'r enw o'r Sansgrit ञठर Jaṭhara, stumog neu abdomen; परिवर्तन Parivartana, i droi o gwmpas; a आसन āsana, ystum neu safle'r corff mewn ioga.[4]Little, Tias (20 Mawrth 2017). "Master Revolved Abdomen Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.</ref> Ni cheir yr asama (neu osgo) yma mewn testunau ioga hatha canoloesol, ond fe'i disgrifir mewn llawlyfrau o'r 20g gan gynnwys Light on Yoga 1966 BKS Iyengar.[5]
Disgrifiad
golyguMae'r asana llawn, a elwir weithiau yn Jathara Parivartanasana B, yn dilyn asana ar y cefn, gyda'r breichiau'n lledu ar y llawr, yn wastad â'r ysgwyddau. Ar gyfer yr asana llawn, mae'r coesau'n cael eu codi'n syth i fyny ac yna'n cael eu gostwng i un ochr, gan gadw'r ysgwydd gyferbyn ar y llawr.[5][6]
Yn Ioga ashtanga vinyasa, mae'r asana'n cael ei ddefnyddio'n ofalus, ar y cyd ag ymarferion cyhyrau dwfn, i helpu i leddfu poen yng ngwaelod y cefn: nid yw'n ddigon ar ei ben ei hun gan fod angen datblygu cryfder y cyhyrau craidd ar hyd yr asgwrn cefn hefyd.[7]
Amrywiadau
golyguAr gyfer osgo haws, a elwir weithiau'n Jathara Parivartanasana A,[2] mae'r pengliniau'n cael eu plygu dros y corff, a'u cylchdroi i un ochr;[4] gall y coesau wedyn gael eu sythu.[6]
Yn Ioga Iyengar, mae'r cluniau'n cael eu symud ychydig i ffwrdd o'r ochr y bydd y coesau'n disgyn cyn y cylchdro. Gellir dal pwysau yn y llaw ar yr ochr arall. Gellir hefyd ymarfer yr asana gyda'r coesau'n disgyn hanner ffordd i lawr.[8]
Gweler hefyd
golygu- Ardha Candrasana (Hanner Lleuad) – tro asgwrn cefn (ar y cefn) tebyg, un goes yn aros yn syth allan ar y llawr
Llyfryddiaeth
golygu- Iyengar, B. K. S. (1979) [1966]. Light on Yoga: Yoga Dipika. Thorsons. ISBN 978-1855381667.
- Mehta, Silva; Mehta, Mira; Mehta, Shyam (1990). Yoga: The Iyengar Way. Dorling Kindersley. ISBN 978-0863184208.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Revolved Abdomen Pose (Jathara Parivartanasana): Steps, Precautions & Benefits". www.yogawiz.com. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.[dolen farw]
- ↑ 2.0 2.1 "Jathara Parivartanasana A". Yogapedia. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
- ↑ "Belly Twist (Version A) | Jathara Parivartanasana A". Yoga Basics. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
- ↑ 4.0 4.1 Little, Tias (20 Mawrth 2017). "Master Revolved Abdomen Pose". Yoga Journal. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.Little, Tias (20 Mawrth 2017).
- ↑ 5.0 5.1 Iyengar 1979.
- ↑ 6.0 6.1 Mehta 1990.
- ↑ Steiner, Ronald (1 Mawrth 2014). "The Right Twist for a Healthy Back". Ashtanga Yoga. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
- ↑ Mehta 1990, t. 85.