Jehuda Halevi
Bardd ac athronydd Iddewig o Sbaen oedd Jehuda Halevi (1075–1141), a aned yn ninas Toledo, Sbaen. Roedd hefyd yn feddyg blaenllaw yn ei ddydd.
Jehuda Halevi | |
---|---|
Ganwyd | c. 1075 Tudela |
Bu farw | c. 1141 Jeriwsalem |
Galwedigaeth | bardd, diwinydd, athronydd, meddyg, llenor, rabi |
Adnabyddus am | Kuzari |
Arweiniodd ei brofiad o wrth-Semitiaeth tra'n byw yn ninas Cordova iddo ddechrau hyrwyddo a dathlu goruchafiaeth Iddewiaeth fel cred a dysgeidiaeth dros athroniaeth Aristotlys (conglfaen athroniaeth Gorllewin Ewrop yn yr Oesoedd Canol). Ymosodai ar Gristnogaeth ei hun, ac Islam yn ogystal, mewn cyfres o weithiau llenyddol, yn rhyddiaith a barddoniaeth cain.
Anogai a hyrwyddai weledigaeth o'r Iddewon a gwlad Israel sy'n ymylu ar fod yn hiliol ond mae ei waith wedi bod yn ddylanwad mawr ar Seioniaeth yr 20g a dechrau'r ganrif hon.
Yn eirionig ddigon, ysgrifennodd ei waith pwysicaf yn Arabeg, sef Llyfr y Khazars, sy'n fath o apologia dros yr Iddewon a'u crefydd.
Ymhlith ei weithiau eraill mae'r casgliad o gerddi a elwir Diwan (enw confensiynol am flodeugerdd) sy'n cynnwys y gerdd Zionide ("Awdl i Seioniaeth"), un o gerddi Hebraeg mwyaf poblogaidd yr Oesoedd Canol.
Dywedir iddo farw yn yr Aifft ar ei ffordd i Jeriwsalem.