Jenkin Alban Davies

Roedd y parchedig Jenkin Alban Davies (5 Medi 1885 - 18 Gorffennaf 1976) yn offeiriad Anglicanaidd a chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru.

Jenkin Alban Davies
Ganwyd5 Medi 1885 Edit this on Wikidata
Aberaeron Edit this on Wikidata
Bu farw18 Gorffennaf 1976 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Clwb Rygbi Prifysgol Rhydychen, Clwb Rygbi Llanelli, Clwb Rygbi Abertawe Edit this on Wikidata
Safleprop Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Bywyd golygu

Ganwyd Davies yn Aberaeron, Ceredigion a chafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen.[1] Bu'n chwarae dros Glwb Rygbi Abertawe yn 1912 ac yn rhyngwladol i Gymru ar saith achlysur. Ei gap cyntaf oedd yn Chwefror 1913 yn erbyn yr Alban. Fis yn ddiweddarach, sgoriodd ei gais cyntaf yn erbyn Ffrainc.[2] Roedd yn gapten y tîm yr "wyth ofnadwy" yn 1914. Gwasanaethodd fel Caplan yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf efo'r Royal Field Artillery.

Wedi'r rhyfel dychwelodd i'r eglwys a daeth yn ficar Hook, Surrey yn 1924 yn gan olynnu Cymro arall i'r swydd sef William Thomas Havard. Ymfudodd i'r Unol Daleithiau lle gweithiodd hefyd fel meistr ysgol. Bu farw 18 Gorffennaf 1976 yn Los Angeles. Roedd ei hanes yn rhan o raglen S4C ar y "Pymtheg Olaf" yn Nhachwedd 2014 lle cafwyd sgwrs amdano gan ei nai Huw Alban Davies.

Gemau Rhyngwladol dros Gymru

Cyfeiriadau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Baker, J. N. L. (1971). Coleg yr Iesu, Rhydychen. London: Oxonian Press Ltd. t. 112. ISBN 0-9502164-0-2.
  2. "Alban Davies". WRU Searchable Player Archive. Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru. Cyrchwyd 12 May 2008.[dolen marw]