Awdures a chyflwynydd rhaglenni teledu Americanaidd yw Jenna Bush Hager (ganwyd 25 Tachwedd 1981[1]) sydd hefyd yn cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel newyddiadurwr, awdur plant a gwleidydd. Mae Hager a'i gefaill, Barbara, yn ferched i'r 43ain Arlywydd yr Unol Daleithiau George W. Bush a chyn-Arglwyddes Gyntaf Laura Bush. Yn 2019 roedd yn cyflwyno Today with Hoda & Jenna, un o raglenni'r NBC yn yr Unol Daleithiau.

Jenna Bush Hager
GanwydJenna Welch Bush Edit this on Wikidata
25 Tachwedd 1981 Edit this on Wikidata
Dallas Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
Galwedigaethathro, gohebydd, ysgrifennwr, awdur plant, gwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
TadGeorge W. Bush Edit this on Wikidata
MamLaura Bush Edit this on Wikidata
PriodHenry Hager Edit this on Wikidata
PlantMargaret Hager, Poppy Hager, Hal Hager Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.today.com/id/38937373/ns/today/t/jenna-bush-hager/ Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Dallas a mynychodd Brifysgol Texas, Austin a Phrifysgol Efrog Newydd. Priododd Henry Hager ac mae Margaret Hager yn blentyn iddi. Mae'n aelod o'r Blaid Weriniaethol.[2][3]

Ar ôl arlywyddiaeth ei thad, daeth Hager yn awdur, yn olygydd ar y cylchgrawn Southern Living, ac yn bersonoliaeth teledu ar NBC, fel aelod o The Today Show fel gohebydd, cyfrannwr a chyd-westeiwr.[4]

Magwraeth a choleg golygu

 
Jenna Bush (ail o'r dde) yn dyst i'w thad dyngu llw ar Ddiwrnod ei Sefydlu; 20 Ionawr 2005.

Ganwyd Margaret yng Nghanolfan Feddygol Prifysgol Baylor yn Dallas, Texas, a'i henwi ar ôl ei mam-gu, Jenna Hawkins Welch.[5] Mynychodd hi a'i chwaer Ysgol Elfennol Preston Hollow ac yna Ysgol Hockaday. Ym 1994, ar ôl i'w thad gael ei ethol yn Llywodraethwr Texas symudodd y teulu i Austin, Texas, lle roedd Bush yn fyfyriwr yn Ysgol Esgobol St. Andrew, cyn mynychu Ysgol Uwchradd Austin o 1996 hyd nes iddi raddio yn 2000.[6]

Gyda'i thad yn Arlywydd yn 2001, mynychodd Brifysgol Texas yn Austin a chymryd dosbarthiadau haf ym Mhrifysgol Efrog Newydd. Tra yno, daeth Jenna a'i chwaer Barbara i sylw cenedlaethol pan arestiwyd y ddwy ohonynt am gyhuddiadau'n ymwneud ag alcohol, ddwywaith o fewn 5 wythnos: ar Ebrill 29, 2001, cyhuddwyd Jenna o gamymddwyn am fod ag alcohol, a hithau dan 21 oed yn Austin. Ar Fai 29, 2001, cyhuddwyd Jenna o gamymddwyn arall - ceisio defnyddio ID ffug (gyda'r enw "Barbara Pierce," enw cyn priodi ei mam-gu tadol) i brynu alcohol. Plediodd hi "dim sialens" i'r ddau gyhuddiad.[7][8][9]

Graddiodd Jenna Bush o Brifysgol Texas yn Austin gyda gradd mewn Saesneg yn 2004.

Cyhoeddiadau golygu

  • Bush, Jenna (2007). Ana's Story : A Journey of Hope. HarperCollins. ISBN 978-0-06-137908-6.
  • Bush, Laura; Bush, Jenna (2008). Read All About It!. HarperCollins. ISBN 9780061560774.
  • Bush, Laura; Bush, Jenna (2016). Our Great Big Backyard. HarperCollins. ISBN 9780062468369.
  • Bush, Barbara Pierce; Bush Hager, Jenna (2017). Sisters First: Stories from Our Wild and Wonderful Life. New York: Grand Central Publishing. ISBN 9781538711415. OCLC 972386724.

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Jenna Bush Biography: Writer (1981–)". Biography.com (FYI / A&E Networks). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Ionawr 2017. Cyrchwyd 9 Ionawr 2017. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014 "Barbara Pierce Bush". Genealogics.
  3. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014
  4. Bauder, David (August 30, 2009). "Former first daughter Jenna Bush joins `Today'". Victoria Advocate What. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Rhagfyr 2013. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2012. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Wehrman, Jessica (30 Awst 2004). "Jenna, Barbara to be seen and heard". Scripps Howard News Service. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
  6. Schumer, Fran (3 Awst 2003). "Blackboard: School Choice; Where They Send Their Own". The New York Times. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
  7. "Bush daughters in Texas". USA Today. 31 Mai 2001. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
  8. "Sentence for Bush daughter". BBC News. June 8, 2001. Cyrchwyd 6 Mai 2019.
  9. Walsh, Joan (31 Mai 2001). "The first family's alcohol troubles". Salon. San Francisco. Cyrchwyd 6 Mai 2019.