Jennifer Lynch

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actores a aned yn Philadelphia yn 1968

Cyfarwyddwr ffilm a theledu Americanaidd yw Jennifer Lynch (ganwyd 7 Ebrill 1968) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr ac awdur. Mae'n ferch i'r gwneuthurwr ffilm David Lynch ac yn awdur y llyfryn The Secret Diary of Laura Palmer (990).[1][2][3][4]

Jennifer Lynch
Ganwyd7 Ebrill 1968 Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Canolfan y Celfyddydau, Interlochen Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, ysgrifennwr, actor Edit this on Wikidata
TadDavid Lynch Edit this on Wikidata
MamPeggy Reavey Edit this on Wikidata
PartnerAndrew J. Peterson Edit this on Wikidata
PlantSydney Lynch Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Philadelphia, Pennsylvania ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Ganolfan y Celfyddydau, Interlochen, Michigan.

Magwraeth golygu

Mae hi'n ferch i'r artist a'r gwneuthurwr ffilmiau David Lynch, sy'n tarddu o'r Ffindir[5], a'r arlunydd Peggy Reavey. Dechreuodd ymarfer Myfyrdod Trosgynnol yn chwech oed.[6] Graddiodd Lynch o'r Academi Gelf Interlochen lle astudiodd y celfyddydau gweledol ac ysgrifennu creadigol.

Yr awdur golygu

Boxing Helena golygu

Denodd sgript, a gomisiynwyd gan Lynch ar gyfer Boxing Helena, lawer o actoresau, gan gynnwys Madonna. Yn y pen draw, castiwyd Sherilyn Fenn, un o'r sêr yng nghyfres deledu ei thad Twin Peaks a'r ffilm Wild at Heart, fel y prif gymeriad Helena. Roedd Kim Basinger hefyd ynghlwm ac fe gafodd ei siwioar ôl ymddiswyddo o’r prosiect. Roedd y ddadl ynghylch yr achos hwnnw, yn ogystal â gwaedd gan ffeministiaid oherwydd testun sadistaidd Helena a chyhuddiadau o nepotistiaeth, yn cyd-fynd â beirniadaeth o'r ffilm wedi iddi gael ei rhyddhau ym 1993.

Surveillance golygu

Yn dilyn cyfnod tawel eitha hir, dychwelodd Lynch i'r arena gyhoeddus gyda'r ffilm Surveillance (Gwyliadwriaeth) ac, ym mis Hydref 2008, enillodd Surveillance y brif wobr yn yr Festival de Cine de Sitges.[7] Fis yn ddiweddarach, Lynch oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gwobr Cyfarwyddwr Gorau Gŵyl Ffilm Arswyd Dinas Efrog Newydd.[8]

Ffilmyddiaeth golygu

Blwyddyn Teitl Sgwennwr Cynhyrchydd Y prif gast Nodiadau
1993 Boxing Helena Jennifer Lynch, Philippe Caland Philippe Caland Sherilyn Fenn, Julian Sands, Bill Paxton
2008 Surveillance Jennifer Lynch, Kent Harper David Lynch, Kent Harper, Marco Mehlitz, David Michaels Bill Pullman, Julia Ormond, French Stewart
2010 Hisss Jennifer Lynch Vikram Singh, Govind Menon Mallika Sherawat, Irrfan Khan Gwadodd y ffilm
2012 Chained Jennifer Lynch, Damian O'Donnell Rhonda Baker, David Buelow, Lee Nelson Vincent D'Onofrio, Eamon Farren, Julia Ormond Hefyd ymddangosiad cameo
TBA A Fall from Grace Jennifer Lynch, Eric Wilkinson David Lynch, Forest Whitaker, Tim Roth, Paz Vega, Vincent D'Onofrio, Willow Shields Ôl-gynhyrchiad
2022 Dahmer – Monster: The Jeffrey Dahmer Story Jennifer Lynch Netflix Evan Peters, Niecy Nash, Richard Jenkins, Penelope Ann Miller, Shaun J. Brown ve Colin Ford Netflix

Anrhydeddau golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12917547x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb12917547x. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Jennifer Chambers Lynch". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 13 Rhagfyr 2014
  5. "DAVID LYNCH: "DEN HÄR VÄRLDEN ÄR FULL AV HAT OCH ÅNGEST"". Nöjesguiden (yn Swedish). REDAKTION. 4 Tachwedd 2010. Cyrchwyd 26 Mai 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  6. MOTTRAM, JAMES (February 22, 2009). "Out on a limb". The Independent on Sunday. London (UK). t. 14.
  7. Todd Brown (13 Hydref 2008). "Complete List of Sitges Winners Announced!". twitchfilm.com. IndieClick Film Network. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-03. Cyrchwyd 6 Hydref 2012.
  8. Aaron Hillis (13 Mai 2009). "Summer Guide: Surveillance, Jennifer Lynch's First in 16 Years". Village Voice. Village Voice, LLC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-03. Cyrchwyd 10 Mehefin 2013.