Jim O'Rourke a'r Hoelion Wyth
Grŵp roc Cymraeg o'r 1980au oedd Jim O'Rourke a'r Hoelion Wyth. Roedd yn band ymysg ton o grwpiau poblogaidd canol yr 1980au ar adeg cyn i'r sîn roc rannu rhwng grwpiau mwy "tanddaearol" a rhai a elwyd yn "canol y ffordd" gan lenwi neuaddau a gigiau mawr.[1] Bu'r grŵp yn flaengar wrth gyfuno seiniau Gwyddelig megis y pibau uilleann fewn i ganu poblogaidd Gymraeg. Prif ganwr a chyfansoddwr y band oedd Jim O'Rourke a bu'n brif leisydd a chyfansoddwr i'r grŵp Rocyn cyn hynny ac yna'n Brif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru.
Enghraifft o'r canlynol | band roc |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 1980s |
Label recordio | Cwmni Recordiau Sain |
Dod i'r brig | 1984 |
Dod i ben | 1987 |
Genre | cerddoriaeth boblogaidd, canu gwerin |
Cydweithio Gwyddelig
golyguUn hynodrwydd gan y grŵp oedd iddi ddenu dau gerddor Gwyddelig proffesiynol ac enwog i gyfrannu ar ail albwm y grwp, Y Bont. Fe gyfrannodd Donal Lunny (o'r grwpiau Gwyddelig gwerin cyfoes, Planxty, Bothy Band a Moving Hearts) oeda Davy Spillane (Moving Hearts) yn chwrae'r pibau uilleann ar yr albwm sy'n trin a thrafod yn gerddorol cysylltiadau teuluol Jim O'Rourke a'r Iwerddon. Ar y record honno roedd Terry Williams (Dire Straits) ar y drymiau.[2] Daeth y syniad am y thema Wyddelig gan i daid Jim O'Rourke symud o Youghall ger Corc i Sir Benfro tua 1918, ac roedd yr enw “O’Rourke” yn amlwg yng nghofnodion “Gwrthryfel y Pasg” a charchar Fron Goch ger Y Bala.[3]
Ail sefydlu
golyguAil sefydlwyd y band am daith fel yn 2008 i gyd-fynd â rhyddau albwm CD gan Recordiau Sain o ganeuon gorau'r grŵp a chyn-grŵp Jim O'Rourke, Rocyn. Roedd y gyngerdd gyntaf yn yn Theatr Gwersyll yr Urdd Caerdydd (Canolfan y Mileniwm) ar ddechrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008. Dyma oedd y tro cyntaf i Jim ganu'n fwy gyda band ers Taith “ Y Bont” yn 1987. Chwaraeodd y grŵp yn yr Eisteddfod ac yna taith fer yng ngaeaf 2008-09.[4]
Aelodau
golyguCafwyd gwahanol aelodau i'r grŵp gyda cnewyllun sefydlog ac yna aelodau yn cyfrannu dros dro, neu, yn achos albwm Pentigili, ar gyfer traciau arbennig. Jim O'Rourke oedd prif leisydd a chyfansoddwr y band trwy gydol y cyfnod.
Prif aelodau:
- Gitâr fâs – Wyn Jones (Ail Symudiad a Recordiau Fflach), yna Ray Jones
- Drymiau – Gordon Jones
- Gitâr a llais cefndir – Brian Breeze, yna Greg Harries
Caneuon 'Gwyddelig' ar Pentigili e.e. Hen Wlad Dadcu, Dulyn, Gwyddeles, Y Bont, Sir Benfro:
- Llais cefndir – Catrin Davies, Sharon Wilshaw Phillips, Sian Davies, Sian Phillips Jones
- Gitâr fâs, Gitâr Fretless – Dave Bell (11)
- Drymiau, offer tarro – Terry Williams (bu hefyd yn Dire Straits)
- Alleweddellau, Bouzouki, Bodhrán – Donal Lunny
- Gitâr flaen a gitâr rhyddm – Greg Harris
- Pibau uilleann, chwiban – Davy Spillane
- Llais, piano – Jim O'Rourke
Disgograffi
golygu- Pentigili - record hir/albwm Recordiau Loco LOCO1016, 1984 [5]
- Y Bont - record hir/albwm Recordiau Sain 1425M, 1987 [6]
- Goreuon Jim O'Rourke yn cynnwys cyfraniadau / featuring Donal Lunny & Davy Spillane Archifwyd 2022-11-17 yn y Peiriant Wayback Recordiau Sain SCD 2585, 2008
Dolenni allanol
golygu- Fideo Sir Benfro o gig Eisteddfod Caerdydd 2008 ar Youtube
- Hen Wlad Dadcu a Cowboi Fideo o gig Clang Clwyd, Eisteddfod Cenedlaethol Cymru Y Rhyl, 1985
- Jim O'Rourke Featuring Donal Lunny & Davy Spillane – Goreuon / Best Of albwm yn cynnwys caneuon gyda'r pibau uilleann
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Diffyg Diddordeb yn y [[Sîn Roc Gymraeg]] yn Llanbed". Clonc 260. 2016. URL–wikilink conflict (help)
- ↑ "Prosiect Da o Ddwy Ynys". The Free Library. 2017.
- ↑ "Y Bont". Recordiau Sain. 1987.
- ↑ "Neges gan Jon O'Rourke". Myfyrdodau Siamas Ramblings. 29 Gorffennaf 2008.
- ↑ "Disgyddiaeth Recordiau Cymraeg" (PDF). Dilwyn Jones. 27 Mehefin 2020.
- ↑ "Y Bont". Recordiau Sain. 1987.