Jo Stevens
Gwleidydd Llafur Cymreig yw Joanna Meriel "Jo" Stevens[1] (ganwyd 1966) sydd yn aelod o Dy'r Cyffredin. Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros etholaeth Caerdydd Canolog yn etholiad cyffredinol Mai 2015.[2]
Jo Stevens AS | |
---|---|
![]() | |
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru | |
Yn ei swydd 7 Hydref 2016 – 27 Ionawr 2017 | |
Rhagflaenydd | Paul Flynn |
Olynydd | Christina Rees |
Cyfreithiwr Cyffredinol Cysgodol | |
Yn ei swydd 13 Ionawr 2016 – 6 Hydref 2016 | |
Arweinydd | Jeremy Corbyn |
Aelod Seneddol dros Canol Caerdydd | |
Yn ei swydd | |
Dechrau 7 Mai 2015 | |
Rhagflaenydd | Jenny Willott |
Mwyafrif | 4,981 (12.9%) |
Manylion personol | |
Ganwyd | Abertawe, Cymru | 6 Medi 1966
Plaid wleidyddol | Llafur |
Alma mater | Prifysgol Manceinion Prifysgol Fetropolitan Manceinion |
Gwefan | jostevens.co.uk |
Bywyd cynnar a gyrfa golygu
Ganwyd Stevens yn Abertawe a magwyd yn yr Wyddgrug, sir y Fflint. Mynychodd Ysgol Uwchradd Argoed ac Ysgol Uwchradd Elfed.[3]
Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Manceinion a cwblhaodd yr Arholiad Cyfreithwyr Proffesiynol yng ngholeg Polytechnig Manceinion yn 1989.[4]
Cyn dod yn aelod seneddol, roedd Stevens yn Gyfarwyddwr Trefniant a Phobl gyda Thompsons Solicitors.[3]
Aelod Seneddol golygu
Etholwyd Stevens fel Aelod Seneddol dros ganol Caerdydd, ar 7 Mai 2015 gyda mwyafrif o 4,981, gan guro y deiliad Democratiaid Rhyddfrydol, Jenny Willott.[2]
Yn ad-drefniant cabinet cysgodol Jeremy Corbyn yn Ionawr 2016 fe'i hapwyntiwyd yn cyfreithiwr cyffredinol cysgodol a gweinidog dros gyfiawnder cysgodol.
Yn ad-drefniant mis Hydref 2016 yn dilyn ail-ethol Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid daeth yn Ysgrifennydd Cymru cysgodol.[5] Ymddiswyddodd ar 27 Ionawr 2017 mewn protest am fod Corbyn yn gorfodi ASau Llafur i bleidleisio o blaid Erthygl 50.[6]
Cyfeiriadau golygu
- ↑ The London Gazette: no. 61230. p. 9127. 18 May 2015.
- ↑ 2.0 2.1 "Cardiff Central Parliamentary constituency".
- ↑ 3.0 3.1 "Democracy Club CVs" Archifwyd 2015-05-18 yn y Peiriant Wayback..
- ↑ "Jo Stevens – About".
- ↑ "As it happened: Steven Woolfe in hospital and Labour reshuffle".
- ↑ Brexit: Jo Stevens yn ymddiswyddo o'r fainc flaen , BBC Cymru Fyw, 27 Ionawr 2017.