John Bowen Jones
Roedd y Parchedig John Bowen Jones (10 Chwefror 1829 – 10 Rhagfyr 1905) yn weinidog Annibynnol o Gymru.[1]
John Bowen Jones | |
---|---|
Ganwyd | 10 Chwefror 1829 Llanwenog |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1905 Aberhonddu |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, llenor |
Cefndir
golyguGanwyd John Jones yn Llanwenog, Sir Aberteifi yn blentyn i John Jones, Amaethwr, a Mary Griffith ei wraig.[2]
Addysg
golyguCafodd ei addysgu mewn ysgolion lleol yn ardal Capel Dewi. Yn 12 oed aeth i ysgol ramadeg Llandysul. O'r ysgol ramadeg aeth i ysgol baratoi yn Llanybydder o dan ofal John Jones, Llangollen. Ym 1845 bu'n llwyddiannus yn arholiad mynediad i Athrofa'r Presbyteriaid yng Nghaerfyrddin. Oherwydd ei oedran (dim ond 16 mlwydd oed) ni chafodd mynd i'r coleg ar unwaith ond rhoddwyd £5 o fwrsari iddo ddychwelyd i'r ysgol ramadeg am flwyddyn arall. Gwariodd blwyddyn yn Athrofa Caerfyrddin gan sefyll arholiad matriciwleiddio i Brifysgol Llundain, lle graddiodd BA ym 1850.[3] Ef a'r parch Henry Oliver oedd y gweinidogion Annibynnol cyntaf i dderbyn gradd o brifysgol wladol.[4]
Gyrfa
golyguYmunodd Jones a'r Eglwys Annibynnol yng Nghapel Brynteg, Llanwenog ym 1841 a dechreuodd bregethu ym 1847.
Ar ôl graddio derbyniodd alwad i fod yn weinidog ar gapeli Annibynnol Hermon, Llansadwrn a Thabor Llanwrda [5] gan gael ei ordeinio ym mis Awst 1851. Ym 1849 symudodd i ofalu am gapel yr annibynwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ym Mhen-y-bont penderfynodd ychwanegu Bowen at ei enw er mwyn ei wahaniaethu oddi wrth y John Jonsiaid di rifedi eraill. Mae Henry Oliver yn ei gofiant iddo yn y Geninen yn ddweud nad oedd unrhyw reswm arbennig am ddewis yr enw,[2] tra fo Daniel Rees ym Mhapur Pawb yn awgrymu mae Thomas Bowen oedd enw un o'i hen, hen deidiau.[3] Wedi 15 mlynedd ym Mhen-y-bont symudodd i Aberhonddu lle fu'n weinidog hyd ei ymddeoliad ym 1903.
Yn ogystal â bod yn weinidog bu'n cadw ysgolion paratoawl ym Mhen-y-Bont ac yn Aberhonddu a baratôdd dros 300 o ddynion ar gyfer addysg ddiwinyddol.
Gyrfa lenyddol
golyguBu Jones yn gyfrannydd cyson i'r cylchgronau Cymreig. Rhwng 1866 a 1903 bu'n olygydd y cylchgrawn Y Cennad Hedd a rhwng 1875 a 1879 bu'n olygydd Y Beirniad.[6] Cyhoeddodd dau lyfr Y Blodeuglwm ym 1876 a Casgliad o Hen Emynau mewn dwy gyfrol ym 1877 a 1883.
Teulu
golyguPriododd Jones ag Ann Owen, llysferch y Parch John Thomas, Lerpwl cawsant bump o blant. Eu mab hynaf oedd y Barnwr Ivor Bowen.[7]
Marwolaeth
golyguAr ôl ei ymddeoliad dechreuodd dioddef o glefyd Alzheimer. Bu farw yn Aberhonddu yn 76 mlwydd oed [8] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y dref.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "JONES, JOHN BOWEN (1829 - 1905), gweinidog Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-17.
- ↑ 2.0 2.1 Y Geninen Gŵyl Ddewi 1906 Y PARCH. J. BOWEN-JONES, B.A gan Henry Oliver adferwyd 16 Mawrth 2020
- ↑ 3.0 3.1 "Y PARCH J B JONES BA ABERHONDDU - Papur Pawb". Daniel Rees. 1894-08-18. Cyrchwyd 2020-03-16.
- ↑ "Y PARCH J B JONES BA LLD - Y Celt". H. Evans. 1901-08-30. Cyrchwyd 2020-03-16.
- ↑ "John Bowen Jones". The Surman Index. Cyrchwyd 2020-03-17.[dolen farw]
- ↑ YR ADOLYGYDD a'r BEIRNIAD: Eu CYNNWYS A'U CYFRANWYR. Gan Huw Walters. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, 1996. Cylchgrawn hanes Cymru; Cyfrol 19, 1998-99 adalwyd 16 Mawrth 2020
- ↑ "BOWEN, IVOR (1862 - 1934), K.C. ac ynad llys sirol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-17.
- ↑ "MARWOLAETH Y PARCH J B JONES BA LLD - Y Celt". H. Evans. 1905-12-15. Cyrchwyd 2020-03-16.
- ↑ "CYMRU YN Y WEINYDDIAETH - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1905-12-16. Cyrchwyd 2020-03-16.