Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan, cymuned a phlwyf yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llansadwrn. Fe'i lleolir yng nghefngwlad Dyffryn Tywi tua hanner ffordd rhwng Llanymddyfri i'r gogledd-ddwyrain a Llandeilo i'r de-orllewin. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan y sant cynnar Sadwrn (fl. tua 460).

Llansadwrn
Llansadwrn Churchyard - geograph.org.uk - 525261.jpg
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.95°N 3.9°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000539 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Am y pentref o'r un enw yn Ynys Môn, gweler Llansadwrn, Ynys Môn.

Pedair milltir i'r gorllewin o'r pentref ceir adfeilion Abaty Talyllychau. Roedd yr uchelwr grymus Syr Rhys ap Gruffudd (c.1283-1356) yn frodor o Lansadwrn. Roedd ganddo blasdy ac ystad yn Abermarlais, o fewn y plwyf.

Cynrychiolir cymuned Llansadwrn yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Jonathan Edwards (Annibynnol).[1][2]

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin (pob oed) (517)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin) (201)
  
39.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin) (253)
  
48.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llansadwrn, Sir Gaerfyrddin) (75)
  
36.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]