John Breynton

gweinidog o Gymru

Roedd y Parchedig Dr John Breynton (Ebrill 1719, Trefeglwys, Sir Drefaldwyn15 Gorffennaf 1799, Edgware Road, Paddington, Llundain) yn weinidog enwog yn Halifax, Nova Scotia, Canada.

John Breynton
Ganwyd13 Ebrill 1719 Edit this on Wikidata
Trefeglwys Edit this on Wikidata
Bu farw15 Gorffennaf 1799 Edit this on Wikidata
Edgware Road Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcenhadwr Edit this on Wikidata

Teulu golygu

Bedyddiwyd ar 13 Ebrill 1719, a treuliodd ei 14 mlynedd cyntaf rhwng ei gartref yn Nhrefeglwys ac ysgol yn Y Drenewydd. O 1733 hyd at 1738, mynychodd Ysgol Amwythig, ag ym 1738, cafodd ei dderbyn i Coleg Magdalene, Caergrawnt, yn dilyn hyn fe dderbyniodd Gradd baglor ym 1741.[1] Yn y flwyddyn olynol, cafodd ei ddirprwyo'n gaplan yn Y Llynges Frenhinol.

Erbyn 1745, roedd yn gaplan ar long rhyfel yn ystod gwahanol ymrwymiadau rhwng y gwarchae ar Louisbourg, Nova Scotia. Ym 1750, derbyniodd Gradd meistr o Gaergrawnt, a priododd Elizabeth Wade yn Eglwys Santes Fair a Sant Michael, Trumpington, Swydd Gaergrawnt. Fe'i anfonwyd gan y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristnogol neu'r Gymdeithas Hybarch i gynorthwyo yn Eglwys Sant Paul, Halifax, Nova Scotia o dan argoelion da yr Esgob o Lundain, tra dychwelodd y rheithor William Tutty i Lundain ar gyfer busnes personol, yn ystod y daith yma bu farw Tutty ym 1754. Cymerodd Breynton drosodd fel genhadwr a gweinidog, neu rheithor, yn Eglwys Sant Paul ym 1754.

Yn 1753 sefydlodd yr ysgol di-dal cyntaf yn Nova Scotia.[2] Ym 1760, fe wnaeth cysegredig "St George's 'Little Dutch' Church" - yr eglwys ail hynaf yn Halifax,[3] o ganlyniad, ddaeth yn rhugl yn Almaeneg. ym 1770, dyfarnwyd gradd anrhydeddol Doctor o Ddwyfoldeb iddo gan Prifysgol Rhydychen.[4] Dychwelodd i Lundain yn ystol 1771-1772 er mwyn casglu ei radd, ond aeth yn ol wedi hynny i barhau gyda'i waith yn Halifax. Erbyn 30 Hydref 1776 roedd yn Gaplan i Garfan Brenhiniol Amddiffynwyr America.

Ar 13 Medi 1778, bu farw ei wraig gyntaf, yn fuan cyn priodas eu merch cyntaf Anne, yn Eglwys Sant Siôr, Sgwar Hanover, ar 28 Tachwedd 1778.

Erbyn 6 Medi 1779, fel gweddw, fe ail-briododd a parhaodd fel rheithor Eglwys Sant Paul, Halifax. Mae'n debyg bu iddo ddychwelyd i Lundain gyda'i ail wraig yn fuan ar ol 1785, gan barhau i dderbyn ei dal o Halifax o £190 tan iddo ymddeol a cael ei ailosod ym1791. Oherwydd ei allu yn Almaeneg, mae'n debyg iddo fod yn gaplan i'r Brenhines Charlotte. Arhosodd yn Llundain tan ei farwolaeth ym 1799.

Priododd Breynton ddwywaith:

Yn gyntaf, fe briododd Elizabeth Wade (bu farw ar 13 Medi 1778, Halifax, Nova Scotia), ar 8 Medi 1850 yn Eglwys Santes Fair a Sant Michael, Trumpington Swydd Gaergrawnt, gyda'r disgynyddion

  1. Mary Breynton (CIR 1753-1795), priodwyd ar 19 Awst 1775, Halifax, Nova Scotia, i'r Captain John Watson
  2. Anne Breynton (1755–1829), priodwyd ar 28 Tachwedd 1778, Sant Siôr, Hanover Square, Llundain, i Francis Perceval Eliot
  3. John Breynton (1756–1843), priodwyd ar 9 Ionawr 1793, Eglwys Santes Fair, Lichfield i Elizabeth Cotton
  4. Henry Edward Breynton (1759–1761)

Fe ail-briododd y gweddw, Mrs Mary Gerrish née Cradock (18 Mai 1723, Boston, Massachusetts, Unol Daleithiau America - Rhagfyr 1806 LichfieldSwydd Stafford, Lloegr), ar 9 Medi 1779 yn Halifax, Nova Scotia, heb ddisgynyddion. Roedd hi'n ferch i George Cradock a'i wraig Mary née Lyde o Boston, Massachusetts, ag yn weddw i Joseph Gerrish (Boston, Massachusetts 1709–1774 Halifax, Nova Scotia), a'i briododd ym 1768 Halifax, Nova Scotia.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Breynton, John (BRNN738J)". Cronfa Ddata Alumni Caergrawnt. Prifysgol Caergrawnt.
  2. "NovaScotia1954". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-10. Cyrchwyd 2017-07-19.
  3. "A Brief Parish History - page 1". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-04-03. Cyrchwyd 2017-07-19.
  4. http://nq.oxfordjournals.org/cgi/issue_pdf/frontmatter_pdf/s7-VI/135.pdf

Dolenni allanol golygu