John Edwards (gwleidydd)

gwleidydd a bargyfreithiwr;

Roedd John (Jack) Edwards (28 Chwefror 1882 - 23 Mai 1960) yn filwr, yn fargyfreithiwr ac yn wleidydd a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol y Glymblaid dros etholaeth Aberafan.[1]

John Edwards
Ganwyd28 Chwefror 1882 Edit this on Wikidata
Llanbadarn Fawr Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mai 1960 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Gwasanaeth Nodedig Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r un enw, gweler John Edwards.

Cefndir

golygu

Ganwyd Edwards yn Llanbadarn yn fab i'r Parchedig James Edwards a Rachel (née Jones) ei wraig. Pan oedd o'n faban symudodd y teulu i Gastell-nedd lle fu ei dad yn gwasanaethu fel gweinidog capel Soar (Annibynwyr). Derbyniodd ei addysg yn Ysgolion Prydeinig a Chanolradd Castell-nedd, Prifysgol Cymru Aberystwyth a Phrifysgol Llundain.

Priododd Gweno Elin Bryan merch Dr Joseph Davies Bryan, Alecsandria, ym 1932, cawsant dau fab ac un ferch.[2]

Wedi ymadael a'r coleg bu Edwards yn gweithio fel athro ysgol uwchradd yn Battersea, Llundain. Ar doriad y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd a'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig gan wasanaethu ar faes y gad yn Ffrainc; dyfarnwyd iddo'r Distinguished Service Order, cafodd e'i enwi ddwywaith mewn cadlythyrau a chafodd ei ddyrchafu i reng is-gyrnol.

Cymhwysodd fel bargyfreithiwr ym 1921 a chafodd ei alw i'r bar yn Gray's Inn.

Gyrfa gyhoeddus

golygu

Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol fel aelod Rhyddfrydol y Glymblaid ym 1918 gan wasanaethu am un tymor yn unig. Cafodd ei drechu yn etholiad cyffredinol 1922 gan yr ymgeisydd Llafur James Ramsay MacDonald .

Ceisiodd am sedd Prifysgol Cymru yn etholiad cyffredinol 1923 ond bu'n aflwyddiannus

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Sir Aberteifi ym 1942

Bu yn aelod o Lys Prifysgol Cymru a Chyngor Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.

Cyhoeddiadau

golygu

Cyhoeddodd drama Galw'r Môr ym 1923 a chyfieithiad ohoni The Call of the Sea ym 1925. Cyhoeddodd bywgraffiad i'w dad Edwards Castellnedd ym 1935.[3] Bu hefyd yn cyfrannu nifer o erthyglau ar gyfer cyhoeddiadau cyfreithiol.

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Surbiton Surrey ym 1960 a chladdwyd ei lwch yn Aberystwyth .

Cyfeiriadau

golygu
  1. EDWARDS, John’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2015; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 18 April 2015
  2. EDWARDS, John Y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 18 Ebrill 2015
  3. Cyngor Sir Ceredigion Awduron [2] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 18 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Aberafan
19181922
Olynydd:
James Ramsay MacDonald