John Humphreys Parry

Newyddiadurwr a golygydd o Gymro

Golygydd a newyddiadurwr o Gymru oedd John Humphreys Parry neu John Humffreys Parry (178612 Chwefror 1825), a adnabyddid hefyd wrth ei enw barddol Ordovex. Gwnaeth gyfraniad pwysig at yr adfywiad o ddiddordeb mewn llenyddiaeth Cymru a bu ganddo ran flaenllaw yng ngweithgareddau diwylliannol a gwladgarol Cymry Llundain yn chwarter cyntaf y 19g.[1]

John Humphreys Parry
Ganwyd1786 Edit this on Wikidata
Yr Wyddgrug Edit this on Wikidata
Bu farw12 Chwefror 1825 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr, bargyfreithiwr, hynafiaethydd Edit this on Wikidata
PlantJohn Humffreys Parry, Hannah Elizabeth Parry Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Brodor o'r Wyddgrug, Sir y Fflint oedd John Humphreys. Fel nifer o'i gydwladwyr, symudodd i ddinas Llundain i geisio gwaith yn 1807. Daeth yn gyfreithiwr yn 1811 ond nid ymroddodd i'w alwedigaeth newydd a throes at newyddiaduraeth i ennill ei fywoliaeth gan ddefnyddio'r ffugenw Ordovex (sef 'un o'r Ordovices').

Daeth yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion. Bu ganddo ran bwysig yn atgyfodiad Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion hefyd yn nes ymlaen. Digwyddodd hynny ar ôl cyfarfod dros frecwast rhyngddo a W. J. Rees a William Owen Pughe yn nhŷ John Parry (Bardd Alaw). Fe'i pendodwyd yn ysgrifennydd fel canlyniad a bu cyfeillgarwch rhyngddo a Pughe wedyn am weddill ei oes, er ei fod yn gwrthod orgraff Gymraeg newydd Pughe.[2]

Roedd ganddo ddiddordeb byw mewn hynafiaethau llenyddol a hanes Cymru ac yn 1819 sefydlodd y cylchgrawn The Cambro-Briton, cylchgrawn hynafiaethol dylanwadol a olygwyd ganddo am dair blynedd nes ei ddirwyn i ben yn 1822. Yn 1824 cyhoeddodd The Cambrian Plutarch, sef geiriadur bywgraffyddol Cymreig.

Roedd ganddo enw am fod yn fyrbwyll a cholli ei dymer. Yn 1825 cafodd ei ladd mewn ysgarmes ger tafarn y Prince of Wales yn Pentonville, Llundain, lle adnabyddus i nifer o Gymry Llundain dros y blynyddoedd.

Roedd Parry wedi dechrau paratoi argraffiad o Gyfraith Hywel, ond pan fu farw heb orffen y gwaith cwblhawyd ef gan Aneurin Owen, a'i cyhoeddodd yn 1841 fel Ancient Laws and Institutes of Wales.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens
  2. Glenda Carr, William Owen Pughe (Caerdydd, 1983), tud. 203.