J. J. Williams (bardd)

gweinidog, bardd a llenor Cymraeg
(Ailgyfeiriad o John James Williams)

Gweinidog, bardd a llenor Cymraeg oedd John James Williams, yn ysgrifennu fel J. J. Williams (8 Hydref 18696 Mai 1954).

J. J. Williams
Ganwyd8 Hydref 1869 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw6 Mai 1954 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef ym mhentre Taigwynion ger Tal-y-bont, Ceredigion. Bu'n gweithio mewn pwll glo am gyfnod, cyn cael ei addysgu ym Mhontypridd, Aberhonddu a Choleg Prifysgol Caerdydd. Ordeiniwyd ef yn weinidog gyda'r Annibynwyr, a bu'n gwasanaethu yn Abercynon, Rhymni, Pentre, Rhondda a Chapel Tabernacl, Treforys. Bu'n llywydd Undeb yr Annibynwyr yn 1935.

Gwaith llenyddol golygu

Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, y tro cyntaf am ei awdl Y Lloer yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1906, cerdd a ddaeth yn boblogaidd iawn, ac eto am ei awdl Ceiriog yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llangollen 1908. Bu'n Archdderwydd o 1936 hyd 1939. Ymhlith ei gerddi mwyaf adnabyddus mae Clychau Cantre'r Gwaelod.

Dolenni allanol golygu