John Lias Cecil-Williams

cyfreithiwr, ysgrifennydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a phrif hyrwyddwr cyhoeddi'r

Cyfreithwr Cymreig oedd Syr John Lias Cecil (Cecil-Williams o 1935; 14 Hydref 1892 - 30 Tachwedd 1964).

John Lias Cecil-Williams
Ganwyd14 Hydref 1892 Edit this on Wikidata
Paddington Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1964 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Man preswylCerrigydrudion, Ffrainc Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcyfreithiwr Edit this on Wikidata

Magwraeth ac addsyg golygu

Fe'i ganwyd yn Paddington, Llundain, yn un o ddau o blant y meddyg John Cadwaladr Williams a Catherine (g.Thomas) ei wraig. Gan eu bod yn hanu o ardal Uwch Aled (Nant Conwy), dychwelwyd John y mab i gael addysg yn ysgol y pentref, Cerrig-y-drudion, pan yn ifanc, cyn mynd yn ól i Lundain i'r City of London School. Yna darllenodd y gyfraith yng Ngholeg Gonville a Caius, Caergrawnt, gan raddio M.A. ac LL.B. cyn ymrestru yn yr Inns of Court yn 1914.

Ffosydd Ffrainc golygu

Oherwydd y Rhyfel Mawr, fodd bynnag, treuliodd y blynyddoedd nesaf yn Ffrainc yn gwasanaethu gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig. Fe'i clwyfwyd deirgwaith ond er hynny llwyddodd i gyrraedd rheng capten.

Dychwelyd i Lundain golygu

Erbyn 1920 fe'i derbyniwyd yn gyfreithiwr, a dilynodd ei alwedigaeth Llundain yn annibynnol ar y dechrau, cyn penderfynu gweithio mewn partneriaeth.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion golygu

Bu'n brysur o fewn cymdeithasau Cymry Llundain, ac ni fu'n hir cyn cael enw da fel person ymroddedig i'r achosion Cymreig. Roedd yn drefnydd gwych ac yn 1934 etholwyd ef yn olynydd Syr Evan Vincent Evans fel ysgrifennydd mygedol Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion. Cadwodd y swydd am yn agos i drideg mlynedd, a hwn oedd cyfraniad mawr ei fywyd. Priododd Olive Mary, unig ferch Aneurin O. Evans o Ddinbych, yn 1935, a ganwyd mab iddynt. Yn ffodus, oherwydd rhywfaint o incwm preifat amgen, diraid oedd gorfod dibynnu'n unig ar ei enillion fel cyfreithiwr, a phrofodd hynny'n gaffaeliad iddo fel aelod o'r Gymdeithas. Parod iawn oedd hefyd i roi o'i amser i fuddiannau'r Anrhydeddus Gymdeithas neu achosion diwylliannol ac elusennol eraill. Roedd rhagluniaeth yn gwenu arno. Cynyddodd nifer aelodau'r Cymmrodorion i tua dwy fil, yng ngwledydd Prydain a thu hwnt, a llwyddodd i ennyn diddordeb a chyfranogiad llawer o Gymry pwysig y cyfnod. Fel rhan o ddathliadau dau can mlwyddiant y Gymdeithas yn 1951, derbyniodd Siarter Frenhinol, ac nid yn annisgwyl, fe'i hurddwyd yn farchog o fewn yr un flwyddyn, a derbyniodd radd LL.D. er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru. Roedd yn ymwybodol iawn o hynafiaeth ac urddas Cymdeithas y Cymmrodorion a manteisiodd ar bob cyfle i osod sêl a delw aruchel arni. Yng ngeiriau Syr Thomas Parry-Williams, a fu am gyfnod yn llywydd y Gymdeithas: "Defnyddiodd Cecil-Williams swydd ysgrifennydd yn eofn a diflino i hyrwyddo buddiannau a noddi treftadaeth Cymru a'r Gymraeg". Trwy ddyfal waith Cymry eraill o'r un cyfnod, e.e. yr Athro R. T. Jenkins, Syr J.E. Lloyd, a Syr William Davies a ffydd digamsyniol Cecil-Williams yn llwyddiant y prosiect, cyhoeddwyd cyfrol Y Bywgraffiadur Cymreig yn 1953, a chaiff ei gydnabod gan lawer fel y llyfr pwysicaf i ymddangos yng Nghymru yn ystod canrif 20.[angen ffynhonnell]

Amryfal swyddi golygu

Arwahán i'r uchod, bu'n weithgar hefyd fel aelod o lysoedd Prifysgol Cymru, Y Llyfrgell Genedlaethol (a'r Cyngor), a'r Amgueddfa Genedlaethol. Yn ychwannegol at hynny, roedd yn ymddiriedolwr Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon, yn aelod o gymdeithas dathlu 350 mlwyddiant talaith Virginia ac o'r Genhadaeth Ewyllys Da i'r Taleithiau Unedig yn 1957. Roedd yn llywydd y Southern Olympian Amateur Football League o 1951-59, ac yn 1959 etholwyd ef yn llywydd y Gynghrair Bêl-droed Amatur. Dyfarnwyd medal Hopkins iddo yn Efrog Newydd yn 1957, ac yn 1962 derbyniodd y fedal anrhydedd uchaf i'w dyrfarnu gan y Cymmrodorion. Cydnabyddwyd ef dan yr enw 'Seisyllt' fel aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd.

Ymddeolodd Cecil-Williams yn 1960 a bu farw yn Llundain.

Ffynonellau golygu

  • Cymry Llundain Ddoe a Heddiw, Undeb Cymdeithasau Diwylliannol Cymraeg (1956)
  • 'Sir John Cecil-Williams, M.A., LL.D', Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 162-66 (1964)
  • Y Ddolen. [ Cylchgrawn misol ], Undeb Cymdeithasau Diwylliadol a Chymdeithas Cymry Ieuainc Llundain (1925-40), Llundain.