John McNally
Gwleidydd o'r Alban yw John McNally (ganwyd 1 Chwefror 1951) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Falkirk; mae'r etholaeth yn siroedd Falkirk a Gorllewin Lothian. Mae'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
John McNally | |
| |
Deiliad | |
Cymryd y swydd 7 Mai 2015 | |
Rhagflaenydd | Eric Joyce Y Blaid Lafur |
---|---|
Geni | Denny, Falkirk, yr Alban | 1 Chwefror 1951
Cenedligrwydd | Albanwr |
Etholaeth | Falkirk |
Plaid wleidyddol | Plaid Genedlaethol yr Alban |
Priod | Sandra |
Plant | 2 |
Galwedigaeth | Gwleidydd |
Gwefan | http://www.snp.org/ |
Fe'i ganwyd yn nhref Denny yn Falkirk. Treuliodd ei flynyddoedd cyntaf yn farbwr; mae ganddo briod, Sandra, a dau o blant.[1]
Etholiad 2015
golyguYn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd John McNally 34831 o bleidleisiau, sef 57.7% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 27.5 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 19,701 pleidlais. Trechodd y cyn-aelod Llafur Karen Whitefield a David Coburn (UKIP).
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Buchanan, Jill. "Landslide win for SNP in Falkirk". Falkirk Herald. Cyrchwyd 8 Mai 2015.[dolen farw]
- ↑ Gwefan y BBC; adalwyd 03 Gorffennaf 2015
- ↑ Adroddiad yn y Guardian ar y don o seddi gan yr SNP yn yr Alban