John Owen Jones (ap Ffarmwr)
Roedd John Owen Jones (ap Ffarmwr) (1 Ionawr, 1861 – 2 Mawrth, 1899) yn newyddiadurwr ac yn ymgyrchydd dros hawliau gweision fferm.[1]
John Owen Jones | |
---|---|
Ffugenw | ap Ffarmwr |
Ganwyd | 1 Ionawr 1861 Trefdraeth |
Bu farw | 2 Mawrth 1899 Nottingham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | newyddiadurwr |
Cefndir
golyguGanwyd Jones ar fferm Ty'n y Morfa, Trefdraeth, Ynys Môn yn blentyn i Owen Jones, ffarmwr ac Emma (née Hughes) ei wraig.[2] Pan oedd ap Ffarmwr tua phedair blwydd oed bu farw ei dad. Ail briododd ei fam ac aeth y teulu i fyw i Ddwryan.
Addysg
golyguAeth ap Ffarmwr i Ysgol y Bwrdd, Dwyran hyd 14 mlwydd oed. Wedi gorffen yn yr ysgol aeth i Gaernarfon fel prentis dilledydd. Yn ogystal â dysgu crefft y teiliwr bu hefyd yn parhau efo'i addysg gan gymhwyso i gael mynediad i Brifysgol Aberystwyth. Ar ôl cyfnod yn Aberystwyth aeth i Goleg Owens ym Manceinion. Ar y pryd roedd Prifysgol Aberystwyth yn darparu graddau Prifysgol Llundain. Roedd Coleg Owens yn paratoi efrydwyr i sefyll arholiadau gradd Prifysgol Llundain.[3]
Gyrfa
golyguAr ôl ymadael a'r brifysgol aeth ap Ffarmwr i Lundain lle fu'n gweithio fel gohebydd y ddinas i bapur y Genedl Gymreig. Dychwelodd i Fôn i gadw ysgol ramadeg wrth barhau i ohebu i'r Genedl Gymreig a chyhoeddiadau eraill. Yn ystod y cyfnod yma bu'n ysgrifennu darnau barn ddylanwadol. Ysgrifennodd am gyflwr yr Eglwys Sefydledig mewn plwyfi gwledig mawr. Ei golofnau mwyaf dylanwadol oedd y rhai am gyflwr cyflogaeth gweision ffarm. O ganlyniad i'w erthyglau cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus i drafod sefyllfa'r gweision fferm trwy Gymru gyfan. Cynhaliwyd gorymdaith fawr yn Llangefni a chafodd ap Ffermwr ei gario ar ysgwyddau rhai o'r gorymdeithwyr trwy'r dref.[4]
Bu'r ymgyrch yn rhannol lwyddiannus. Torrwyd y nifer o oriau roedd disgwyl i'r gweision gweithio pob wythnos a bu rhywfaint o wella mewn amodau eraill. Methodd a gwireddu ei freuddwyd o ffurfio undeb i'r gweision fferm. Bu'r ymgyrch ar ran gweision fferm yn unig. Parhaodd y morwynion fferm i weithio oriau hir am gyflog tlawd.[5]
Ym 1891 ymunodd a staff y "Genedl" fel is-olygydd yr holl bapurau a argraffwyd gan Gwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig.
Ym 1895 ymddeolodd Thomas Lewis AS Rhyddfrydol Môn o'r Senedd a bu pwysau mawr ar ap Ffarmwr i sefyll yn ei le, ond fe wrthododd y cais.
Symudodd i Ferthyr Tudful ym 1895 i wasanaethu fel golygydd y Merthyr Times.[6] Ym 1897 symudodd i Nottingham i fod yn olygydd erthyglau y Nottingham Express gan aros yno hyd ei farwolaeth. Ym 1898 cyhoeddwyd ei lyfr Cofiant Gladstone yng Nghaernarfon.[7]
Teulu
golyguRoedd yn briod a merch oedd a'r enw morwynol E Williams (bu Mrs Williams, mam yng Nghyfraith, yn alaru yn ei angladd) [8] bu farw eu hunig blentyn ychydig fisoedd cyn ei farw ef. Bu farw Mrs E Jones ym 1919 [9]
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref yn Coleville Street, Nottingham o neffritis yr arennau yn 38 mlwydd oed [10] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Capel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nwyran.[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jones, F. P., (1970). JONES, JOHN OWEN (‘Ap Ffarmwr’, 1861 - 1899), newyddiadurwr. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 27 Chw 2020
- ↑ "AP FFARMWR - Papur Pawb". Daniel Rees. 1893-12-23. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "MARWOLAETH AP FFARMWR - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1899-03-07. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "MARWOLAETH AP FFARMWR - Y Werin". D. W. Davies & Co. 1899-03-11. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ John, Angela V (2011). Our mothers' land : chapters in Welsh women's history, 1830-1939. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-2341-0. OCLC 772523637.
- ↑ "Ap FFARMWR - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1894-08-30. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "The Life of Gladstoneby Ap Ffarmwr - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1898-07-08. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "THE LATE AP FFARMWR - The North Wales Express". Robert Wiliams. 1899-03-10. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "Family Notices - Y Clorianydd". David Williams. 1919-12-31. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "DEATH OF AP FFARMWR - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1899-03-11. Cyrchwyd 2020-02-27.
- ↑ "CLADDEDIGAETH AP FFARMWRI - Y Genedl Gymreig". Thomas Jones. 1899-03-14. Cyrchwyd 2020-02-27.