Agor y brif ddewislen

Roedd Syr John Prichard-Jones (31 Mai 184117 Hydref 1917), barwnig 1af, yn ŵr busnes, perchennog siop adrannol Dickins & Jones, Regent Street, Llundain ac yn gymwynaswr.

John Prichard-Jones
John Prichard-Jones.jpg
Syr John Prichard-Jones
Ganwyd 31 Mai 1845 Edit this on Wikidata
Bu farw 17 Hydref 1917 Edit this on Wikidata (72 oed)
Galwedigaeth person busnes Edit this on Wikidata

Cynnwys

Bywyd PersonolGolygu

Ganwyd John yn fferm Tŷ’n y Coed, Niwbwrch, yn fab i Richard Jones, amaethwr a Jane (née Owen) ei wraig. Yn unol â’r drefn Gymreig, fel John Prichard roedd yn cael ei adnabod fel plentyn, ac yna fel John Prichard Jones wedi iddo gychwyn gweithio. Cofrestrodd ei enw yn swyddogol i John Prichard-Jones, trwy weithred pôl ychydig cyn ei farwolaeth.

Cafodd addysgu elfennol yn Ysgol Brydeinig Ddwyran

Bu’n briod ddwywaith ei wraig gyntaf oedd Mary Coggan o Muchley, Gwlad yr Haf. Bu hi farw ym 1901, ar ôl 24 mlynedd o fywyd priodasol, ni fu iddynt blant.[1]. Ym 1911 priododd Marie E Reid yn Hampstead a bu iddynt dau blentyn.

GyrfaGolygu

Wedi ymadael a’r ysgol symudodd Jones i Gaernarfon i fwrw prentisiaeth yn siop Owen Owen, dilledydd. Bu’n gweithio wedyn mewn siopau dillad ym Mangor, Wrecsam, Llundain, Dewsbury a Leeds cyn symud yn ôl i Lundain i dderbyn swydd fel prynwr yn siop adrannol Dickins, Smith & Stevens, Regent Street ym 1872. Yno fe'i dyrchafwyd yn olynol i reolwr, cyfarwyddwr, cadeirydd y bwrdd ac yn wedyn ym 1878 fe’i gwnaed yn bartner, gan newid enw’r siop i Dickins & Jones. Ym 1900 trodd Dickins & Jones yn gwmni cyfyngedig, gyda Jones yn gweithredu fel rheolwr cyfarwyddwr. Ym 1914 gwerthodd Jones y siop i gwmni Harrods am £700,000.[2]

Gwasanaeth cyhoeddusGolygu

Bu Prichard-Jones yn adnabyddus am ei wasanaeth cyhoeddus ac am ei haelioni i sefydliadau cyhoeddus. Roedd yn un o noddwyr y Warehousemen Clerks and Drapers School yn Purley, Surrey, lle rhoddwyd addysg i blant mewn angen i weithwyr y diwydiant dillad . Ym 1887 fe dalodd y ddyled a godwyd wedi i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd gwneud colled a gwasanaethodd fel trysorydd Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1909 . Gwasanaethai fel trysorydd yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd; a thrysorydd y Bwrdd Penodiadau Cymreig. Roedd yn aelod o Gyngor Anrhydeddus Cymdeithas y Cymmrodorion, ac yn weithgar mewn nifer gymdeithas elusengar a chymdeithasol Cymreig a Chymraeg yn Llundain.

Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Môn ym 1905[3]

Sefydliad NiwbwrchGolygu

Ym 1903 sefydlwyd Sefydliad Prichard-Jones yn Niwbwrch. Adeiladodd y sefydliad neuadd gyhoeddus, llyfrgell a chwe bwthyn i dlodion y dref. Cost y fenter oedd £19,000 a thalwyd y cyfan gan John Prichard Jones.[4]

Mae neuadd, sydd yn adeilad rhestredig gradd 2, yn dal i gael ei ddefnyddio gan drigolion Niwbwrch hyd heddiw. Ym 1906 ymddangosodd y neuadd ar raglen y BBC Restoration lle fu’n cystadlu ag adeiladau eraill i gael ei adnewyddu. Er na enillodd y gystadleuaeth derbyniwyd nawdd yn 2008-2009 gan Fenter Môn, Cyngor Ynys Môn a Chynulliad Cymru i adnewyddu’r adeilad.[5]

Prifysgol BangorGolygu

Trwy ei gyfeillgarwch gyda Syr John Morris-Jones ddaeth Prichard-Jones yn weithgar yn natblygiad Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Bu yn aelod o gyngor y coleg, gan wasanaethu fel ei is lywydd ym 1909. Hefyd ym 1909 cyfrannodd £19,000 i adeiladu prif neuadd ymgynnull adeiladau newydd y coleg, sef Neuadd Prichard Jones[6][7]. Ym 1913 derbyniodd gradd LlD er anrhydedd gan y Brifysgol.

Cafodd ei godi’n farwnig ym 1910[8]

MarwolaethGolygu

Bu farw yn ei gartref, Maes yr Hâv (sic), Elstree, Swydd Hertford yn 72 mlwydd oed. Cludwyd ei weddillion yn ôl i Fôn i’w claddu ym mynwent eglwys Niwbwrch[9].

CyfeiriadauGolygu