John Pughe
Meddyg ac awdur oedd John Pugh neu Ioan ab Hu Feddyg (8 Medi 1814 – 9 Ebrill 1874).
John Pughe | |
---|---|
Ganwyd | 8 Medi 1814 Tref Alaw |
Bu farw | 9 Ebrill 1874 Aberdyfi |
Man preswyl | Clynnog Fawr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meddyg |
Plant | Buddig Anwylini Pughe |
Fe'i ganed yn "Ysgubor Fawr", Chwaen Wen, Llanddeusant, Sir Fôn, yn fab hynaf i David Roberts Pughe ac Elizabeth ei wraig.
Cymhwysodd fel meddyg yn Ysbyty Sant Thomas, Llundain lle cafodd radd F.R.C.S. Ymsefydlodd am ychydig fel meddyg yn Abermaw gan gartrefu wedyn yn Aberdyfi lle'r arhosodd am y rhan fwyaf o'i oes. Treuliodd ran o dymor ei ieuenctid yng Nghlynnog, Arfon, lle'r oedd yn gyfaill i Eben Fardd.[1]
Priodi a phlant
golyguPriododd Catherine Samuel, merch Samuel Samuel, Caernarfon ar 21 Chwefror 1839; bu hi farw 14 Hydref 1862 ym Mhenhelyg, Aberdyfi. Daeth pedwar o'u meibion yn feddygon o fri:
- John Eliot Howard (bu f. 1880 )
- Rheinallt Navalaw,
- Taliesin William Owen (bu f.1893 ), yn gwasanaethu yn Lerpwl
- David Roberts (bu f. 1885 ) yn Sir Drefaldwyn.
Merch iddynt oedd yr arlunydd Buddug Anwylini Pugh, a fu farw yn Lerpwl ar 2 Mawrth 1939 yn 83 mlwydd oed. Ysgrifennodd Buddug Pughe hanes ardal ei mebyd, ond ni chyhoeddwyd y llawysgrif.
Tra yn Aberdyfi a'r cylch, gwasanaethodd fel ustus heddwch a noddwr llawer o achosion dyngarol a chrefyddol. O ran ei ddaliadau crefyddol gogwyddai at y Plymouth Brethren, a phregethai gyda'r enwad hwnnw yn yr eglwys a gychwynnwyd ganddo yn y cylch. Bu farw 9 Ebrill 1874, a'i gladdu ym mynwent Capel Maethlon, tir a berthynai i'r teulu.
Cyfieithodd Meddygon Myddfai, The Physicians of Myddfai , a olygwyd gan John Williams (Ab Ithel) ac a gyhoeddwyd gan y Welsh MSS. Society, 1864.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Lewis, Idwal (1953–54). "Y Bywgraffiadur Cymreig". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2017.CS1 maint: date format (link)