John Roberts (AS Fflint)
Roedd John Roberts (14 Gorffennaf, 1835 – 24 Chwefror, 1894) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint[1]
John Roberts | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 14 Gorffennaf 1835 ![]() Lerpwl ![]() |
Bu farw | 24 Chwefror 1894 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol ![]() |
Tad | David Roberts ![]() |
Mam | Jane Roberts ![]() |
Priod | Catherine Tudor Hughes ![]() |
Plant | John Herbert Roberts ![]() |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Roberts yn Lerpwl yn fab i David Roberts, masnachwr coed. Roedd gwreiddiau'r teulu yn Llanrwst.
Cafodd ei addysgu yn y Liverpool Institute ac wedyn mewn coleg masnachol yn Brighton
Priododd Catherine Tudor Hughes, roedd hi'n ferch i'r Parch John Hughes, Lerpwl. Bu iddynt deuddeg o blant, yr hynaf oedd John Herbert Roberts, Barwn 1af Clwyd. Bu farw Mrs Roberts ym Mis Medi 1880 o gymhlethdodau geni'r deuddegfed plentyn [2]
Gyrfa
golyguAr ôl gorffen ei addysg aeth Roberts i weithio i gwmni ei dad David Roberts a'i feibion yn Derby Road Lerpwl gan ddod yn bartner ac yn gyfarwyddwr yn y cwmni. Ar ôl i John ymuno a'r cwmni dechreuodd buddsoddi mewn tir i'w datblygu ar gyfer adeiladau tai, gan brynu 280 erw o dir ar gyfer 15,000 o dai. Wrth werthu tir i adeiladwyr roedd y cwmni yn mynnu bod y cytundebau yn cynnwys cymal yn sicrhau nad oedd diodydd meddwol yn cael eu cynhyrchu na'u gwerthu byth arno.[3]
Gyrfa Wleidyddol
golyguWedi marwolaeth Peter Ellis Eyton Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint ym 1878 dewiswyd John Roberts fel ymgeisydd y Blaid Ryddfrydol ar gyfer yr isetholiad i ddewis olynydd iddo. Llwyddodd Roberts i gadw'r sedd i'r achos Rhyddfrydol hyd ei benderfyniad i ymddeol o'r Senedd oherwydd cyflwr ei iechyd ym 1890 [4]
Mae John Roberts yn cael ei goffau yn bennaf fel yr Aelod Seneddol oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r mesur i gau tafarnau ar y Sul i'r Senedd ym 1880, a ddaeth yn Ddeddf Cau Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881 blwyddyn yn ddiweddarach.[5]
Marwolaeth
golyguBu John Roberts farw yn ei gartref, West Dingle, Lerpwl yn 59 mlwydd oed, a'i chladdu yng nghladdgell y teulu ym mynwent Capel Mynydd Seion (MC) Abergele.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Debretts House of Commons [1] adalwyd 3 Ionawr 2015
- ↑ DEATH OF MRS. JOHN ROBERTS, BRYNGWENALLT yn y Rhyl Advertiser 18 Medi 1880 [2] adalwyd 3 Ionawr 2015
- ↑ "MARWOLAETH MR JOHN ROBERTS YH - Y Cymro". Isaac Foulkes. 1894-03-01. Cyrchwyd 2020-03-24.
- ↑ RESIGNATION Of MR. JOHN ROBERTS, M.P. yn y Rhyl Record and Advertiser 17 Hydref 1891 [3] adalwyd 3 Ionawr 2015
- ↑ LLWYDDIANT I MR JOHN ROBERTS yn y Gwiliedydd 7 Gorffennaf 1880 [4] adalwyd 3 Ionawr 2015
- ↑ FUNERAL OF MR. JOHN ROBERTS yn yr Evening Express 1 Mawrth 1894 [5] adalwyd 3 Ion 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Peter Ellis Eyton |
Aelod Seneddol dros Bwrdeistrefi Fflint 1878 – 1890 |
Olynydd: John Herbert Lewis |