John Herbert Roberts, Barwn 1af Clwyd

gwleidydd

Roedd John Herbert Roberts, Barwn 1af Clwyd o Abergele (8 Awst 186319 Rhagfyr 1955) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig.

John Herbert Roberts, Barwn 1af Clwyd
Syr J Herbert Roberts (1909)
Ganwyd8 Awst 1863 Edit this on Wikidata
Bu farw19 Rhagfyr 1955 Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddArglwydd, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadJohn Roberts (AS Fflint) Edit this on Wikidata
MamCatherine Tudor Hughes Edit this on Wikidata
PriodHannah Rushton Caine Edit this on Wikidata
PlantTrevor Roberts, David Stowell Roberts, William Herbert Mervyn Roberts Edit this on Wikidata

Bywyd Cynnar

golygu

Ganwyd Roberts yn 61 Hope Street, Lerpwl, ym 1863, yn fab i John Roberts o Lerpwl a Bryngwenallt, Abergele; Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Fflint (etholaeth seneddol) a Catherine Tudor (née Hughes) ei wraig.

Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt, lle y graddiodd B.A. yn 1884 ac M.A. ym 1888.[1]

Ar ôl ymadael a'r brifysgol treuliodd y flwyddyn 1884-1885 yn teithio'r byd a chyhoeddodd dau lyfr yn disgrifio'i brofiadau: A World Tour ac Ymweliadau a Bryniau Kasia, a thraethawd Tro yn yr Aifft a ymddangosodd yn Y Traethodydd ym 1896.[2]

Bywyd Gwleidyddol

golygu

Cafodd Roberts ei ethol yn AS Rhyddfrydol dros Orllewin Sir Ddinbych ym 1892 gan ddal y sedd hyd 1918. Bu'n ysgrifennydd y Blaid Ryddfrydol Gymreig ac yn gadeirydd o 1912 i 1918. Ym 1922 bu'n aelod o Gomisiwn Ysbytai Gwirfoddol Cymru.

Fe'i crëwyd yn farwnig yn 1908 a dyrchafwyd ef i Dŷ'r Arglwyddi ym 1919 gan ddefnyddio’r teitl "Barwn Clwyd o Abergele".

Bywyd Teuluol

golygu

Ym 1893 priododd Roberts a Hannah Rushton Caine, merch yr Aelod Seneddol William Sproston Caine. Bu iddynt dri mab: John Trevor Roberts, (a olynodd ei dad fel 2il Farwn Clwyd) 1900-1987; Yr Anrhydeddus David Stowell Roberts (efaill) 1900-1956 a'r Anrh. William Herbert Mervyn Roberts 1906-1990.[3]

Bu farw'r Arglwydd Clwyd ar 19 Rhagfyr 1955 yn ei gartref yn Abergele.

Cyfeiriadau

golygu
  1. http://www.ukwhoswho.com/view/article/oupww/whowaswho/U235842, adalwyd 12 Rhag 2014
  2. ROBERTS , JOHN HERBERT , BARWN CLWYD o ABERGELE http://wbo.llgc.org.uk/cy/c4-ROBE-HER-1863.html adalwyd 13 Rhag 20014
  3. http://www.thepeerage.com/p24239.htm#i242383 adalwyd 13 Rhag 2014
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
William Cornwallis West
Aelod Seneddol dros Orllewin Sir Ddinbych
18921918
Olynydd:
Diddymu'r sedd