Deddf Cau Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881
Roedd Deddf Cau Tafarnau ar y Sul (Cymru) 1881 yn Ddeddf Senedd y Deyrnas Unedig. Roedd yn un o nifer o ddeddfau trwyddedu i'w cyflwyno rhwng 1828 a 1886. O dan y ddeddf roedd yn ofynnol i bob tafarn yng Nghymru aros ar gau ar Ddydd Sul. Roedd gan y Ddeddf bwysigrwydd gwleidyddol sylweddol fel cydnabyddiaeth ffurfiol o gymeriad gwahanol Gymru i weddill y Deyrnas Unedig, gan osod cynsail ar gyfer deddfwriaeth a phenderfyniadau yn y dyfodol. Fe'i diddymwyd ym 1961.
Cyflwyno'r ddeddfwriaeth
golyguCyflwynwyd y ddeddfwriaeth yn wreiddiol gan John Roberts AS Bwrdeistrefi Fflint ym mis Chwefror 1880 ar yr un pryd cafodd mesur tebyg ar gyfer Cymru a Lloegr ei gynnig gan Syr Joseph Pease AS South Durham[1]. Trechwyd mesur Pease ond aeth mesur Roberts ymlaen i ail ddarlleniad gyda chefnogaeth Llywodraeth Ryddfrydol Gladstone ar ôl i filoedd o bobl Cymru arwyddo deisebau yn datgan eu cefnogaeth i'r fath mesur[2][3]
Hwn oedd y Ddeddf gyntaf ers Ddeddfau Uno Cymru a Lloegr 1535-42 a oedd yn benodol berthnasol i Gymru yn unig (Bu dwy ddeddf Gymreig flaenorol Deddf Cymru a Berwick 1746 a Deddf Eglwysi Cadeiriol Cymru 1843 ond eu bwriad hwy oedd gwneud Cymru'n unffurf a Lloegr).
Nid oedd Ddeddf 1881 yn berthnasol i Sir Fynwy, ond cafodd ei ymestyn i'r sir honno ym 1915 o dan ddeddfwriaeth berthnasol i'r Rhyfel Byd Cyntaf a chafodd ei gadarnhau trwy welliant i'r Ddeddf ym 1921.
Diddymu
golyguCafodd y Ddeddf ei diddymu gan Ddeddf Trwyddedu 1961, a oedd yn caniatáu i awdurdodau lleol yng Nghymru i gynnal polau o'u trigolion ar barhad y gwaharddiad os oedd o leiaf 500 o bleidleiswyr yn gofyn am bôl.
Cafodd polau eu cynnal mewn rhannau o Gymru ym 1961, 1968, 1975, 1982, 1989 a 1996. Erbyn 1989 yr oedd holl ardaloedd llywodraeth leol Cymru ac eithrio Dwyfor wedi pleidleisio o blaid agor tafarnau ar y Sul, yn referendwm 1996 pleidleisiodd Dwyfor 24,325 o blaid i 9,829 yn erbyn agor, gan droi Cymru gyfan yn wlyb am y tro cyntaf ers pasio ddeddf 1881[4]. Y dyddiad nesaf ar gyfer cynnal Refferendwm yfed ar y Sul oedd Mis Hydref 2003, ond o dan bwysau gan rhai aelodau o'r Cynulliad a Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, defnyddiwyd gwelliant i Deddf Trwyddedu 2003 (a ddaeth i rym ym Mis Gorffennaf 2003) i agor holl dafarnau Cymru ac i ddiddymu'r hawl i alw am bolau ar y pwnc.[5]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Y Senedd yn Y Gwiliedydd 12 Chwefror 1880 [1] adalwyd 3 Ionawr 2015
- ↑ Cyfarfod Chwarterol Sir Ddinbych yn Y Tyst a'r Dydd 5 Mawrth 1880 [2] adalwyd 3 Ion 2015
- ↑ Araith John Roberts wrth geisio ail ddarlleniad i'r mesur yn Hansard 30 Mehefin 1880 [3] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 3 Ion 2015
- ↑ Wet Sunday in Wales yn yr Independent 8 Tachwedd 1996 [4] adalwyd 3 Ion 2015
- ↑ WALES WELCOMES END TO SUNDAY PUB POLLS yn Local Government Chronicle 25 Gorffennaf 2003 [5] adalwyd 3 Ion 2015