John S. Davies (cemegydd)

Cemegydd (1940-2016)

Gwyddonydd o Gymru yn arbenigo mewn cemeg organig oedd y Dr John S Davies (7 Mehefin 1940 - 22 Ionawr 2016)[1]. Magwyd yn Nhrelech, Sir Gaerfyrddin a bu farw ym Mhenlle'r-gaer, Sir Abertawe lle ymgartrefodd. Rhoddodd gryn wasanaeth i faterion gwyddoniaeth trwy'r Gymraeg. Roedd hefyd yn gymwynaswr mawr i'r Gymraeg yn gyffredinol yn ei ardal.

John S. Davies
Ganwyd7 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Tre-lech, Llandudoch Edit this on Wikidata
Bu farw22 Ionawr 2016 Edit this on Wikidata
Abertawe Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethcemegydd, academydd Edit this on Wikidata
John Davies (chwith) ar fin dderbyn Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol, Awst 2012. Hefyd Hugh Jones (Ysgol Feddygol, Prifysgol Abertawe).

Bywgraffiad

golygu

Graddiodd John Davies o Brifysgol Abertawe a bu'n gymrawd ymchwil yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT). Ei arbenigedd oedd peptidau cylch[2].

Ymunodd ag Adran Gemeg Prifysgol Abertawe yn 1964[3], cyn gorffen yno fel Uwch-ddarlithydd yn 2007[4]. Yn ystod ei gyfnod yn y Brifysgol, bu John Davies yn Ddeon y Gyfadran Wyddoniaeth, ac yn aelod ar Gyngor y Gymdeithas Gemegol Frenhinol. John Davies oedd ysgrifennydd Cymdeithas Peptid a Phrotein Ewrop[5].

Cyfrannodd yn rheolaidd i gyhoeddiadau gwyddonol yn y Gymraeg (megis Y Gwyddonydd, Delta ac Atom) dros genhedlaeth gyfan. Bu'n feirniad Gystadleuaeth Gwyddonwyr Ifanc y Flwyddyn sawl tro. Enillodd brif wobr Erthygl Gwyddoniaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau (2015). Derbyniodd Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg (2012) am ei wasanaeth i Wyddoniaeth a Thechnoleg yn y Gymraeg.

Bu'n aelod o fwrdd golygyddol cylchgronau'r Gwyddonydd, Delta, Atom a Gwerddon ac yn gadeirydd ac aelod gweithgar o bwyllgor rheoli'r Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol; yn ystod y cyfnod sefydlwyd adran Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n gadeirydd yr adran honno am flynyddoedd.

Bu gan John Davies ran allweddol yn yr ymgyrch i sefydlu Ysgol Gyfun Gŵyr yn ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf Abertawe[3], lle bu'n Gadeirydd y Corff Llywodraethol. Roedd yn gefnogwr brwd i bob agwedd o addysg Gymraeg. Roedd hefyd yn ysgrifennydd Eglwys yr Annibynwyr, Bethel Sgeti, Abertawe, am flynyddoedd lawer[3].

Roedd yn briod i Ann a bu iddynt ddwy ferch Eleri a Meinir[1].

Llyfryddiaeth

golygu
Y Gwyddonydd (detholiad)
golygu

Damcaniaeth y tamaid bach. Y Gwyddonydd 9, (1; Mawrth) 1971[6]

Aspirin: y cymorth cyntaf.  Y Gwyddonydd 13, (2) 50-51 (1975)[7]

Eisteddfod Abertawe a'r Cylch, 1982. Y Gwyddonydd  9, (3; Gaeaf) 1982-1983 [8]

Cyfeiriadau

golygu