Croesan yn llys Edward IV, brenin Lloegr yn y 1470au, ac o bosib ffigur ffuglennol, oedd John Scoggin (hefyd Scogan, Scogin, Skogyn). Priodolir sawl testun ffraeth o ddiwedd yr 16g a dechrau'r 17g iddo.

John Scoggin
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
GalwedigaethCroesan Edit this on Wikidata
Blodeuodd1470s Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ymddengys ei enw am y tro cyntaf fel awdur y llyfr ffraethebion The iestes of Skogyn, a gyhoeddwyd tua 1570 gan T. Colwell. Dernynnau yn unig sydd yn goroesi o'r casgliad cyntaf, ond mae copi cyflawn o argraffiad 1626 gan Francis Williams dan y teitl The First and Best Part of Scoggins Jests. Yn y gyfrol honno, dywed iddynt gael eu casglu gan y meddyg a theithiwr Andrew Boorde er trin y pruddglwyf. Yn ôl y manylion honedig am ei fywyd a geir yn y rhagair a'r testun, astudiodd Scoggin ym Mhrifysgol Rhydychen, ac aeth i Lundain ac yna Bury. Ymunodd â gweision Syr William Neville (mab Ralph Neville, Iarll 1af Westmorland, yn ôl pob tebyg) yn chwarae'r ffŵl a fe'i cyflwynwyd i'r llys brenhinol gan ei feistr. Ymddifyrrodd y brenin yng nghastiau a chellweiriau Scoggin, a gwobrwywyd iddo dŷ yn Cheapside. Dywed iddo fod yn ddi-flewyn-ar-dafod a cholli ffafr o'r herwydd. Aeth i Ffrainc ym mha le eto cododd yng ngolwg y llys brenhinol cyn colli ffafr, a dychwelodd i Loegr a derbyniodd bardwn gan y brenin. Bu farw Scoggin o beswch enbyd a fe'i claddwyd yn ochr ddwyreiniol Abaty Westminster.[1]

Ceir sawl cyfeiriad at ffraethebion Scoggin yn llenyddiaeth Seisnig yr 16g a'r 17g, ac mae llyfrynnau sieb o'r cyfnod yn cynnwys esiamplau ohonynt. Mae llyfr ffraethebion arall, Dobsons drie bobbes: sonne and heire to Skoggin (1607), yn hawlio treftadaeth Scoggin yn ei isdeitl, ac yn dystiolaeth o amlygrwydd yr enw yn Oes Iago.[1] Cafodd Scoggin ei gymysgu yn aml ag Henry Scogan, cyfaill i Chaucer a thiwtor i feibion y Brenin Harri IV.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Douglas Gray, "Scoggin [Scogan, Scogin, Skogyn], John (supp. fl. 1480), supposed court jester and author", Oxford Dictionary of National Biography (Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004). Adalwyd ar 27 Hydref 2020.