Llyfryn sieb
Llyfryn byr o lenyddiaeth ysgafn oedd yn boblogaidd yng ngorllewin Ewrop ac America yn y cyfnod modern cynnar yw llyfryn sieb.[1] Fel rheol roedd y llyfryn sieb yn bamffled o bedair tudalen, neu luosrif o bedwar, gan amlaf 5½×4¼ modfedd, wedi ei bwytho a chyda torluniau pren yn darlunio'r stori. Cawsant eu cyhoeddi'n ddi-enw a'u gwerthu gan drafaelwyr. Roeddynt yn cynnwys amryw o ddeunydd darllen poblogaidd: straeon am arwyr, chwedlau, llên gwerin, straeon beiblaidd, ffraethebion a digrifwch, baledi, straeon am droseddau a dihirod, hwiangerddi a rhigymau plant, gwersi ysgol, a breuddwydion, a ffurfiau defnyddiol megis almanaciau.
Clawr o lyfryn sieb Saesneg o'r 19g cynnar. | |
Enghraifft o'r canlynol | print book format |
---|---|
Math | broadside |
Yn cynnwys | bookbinding |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Y Ffrancod oedd y cyntaf i gyhoeddi llyfrynnau sieb, a hynny ar ddiwedd y 15g. Ffynnodd y Volksbücher yn yr Almaen yng nghanol yr 16g, ac roedd y rhain yn cynnwys addasiadau rhyddiaith o ramantau canoloesol ac amryw straeon o wledydd eraill. Ymddangosodd llyfrynnau tebyg yn Lloegr, ac oddi yno danfonwyd enghreifftiau i'r Amerig a gawsant eu hailargraffu'n lleol.[2] Yn y 18g dechreuwyd cynhyrchu llyfrynnau sieb yn yr iaith Saesneg i blant, yn cynnwys hen rigymau neu fywgraffiadau tybiedig o gymeriadau cyfarwydd, megis Old Mother Hubbard. Mae llyfrynnau sieb o werth i ysgolheigion sy'n astudio diwylliant gwerin gan eu bod yn cynnwys caneuon gwerin ac hen chwedlau megis Sinderela a Jac y Cawrladdwr, yn aml â darluniau sydd yn enghreifftiau o gelf werin. Argraffiadau cryno answyddogol o nofelau poblogaidd, megis Robinson Crusoe, oedd rhai ohonynt. Roedd ambell un yn cynnwys straeon cyfoes o natur gyffrous a gawsant eu cyflwyno fel newyddion go iawn, yn debyg i'r papurau clecs yn y 19g.[3]
Y cylchgrawn rhad a ganodd gnul y llyfryn sieb yn y 19g.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ llyfryn%20sieb. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2017.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) chapbook. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2017.
- ↑ Josepha Sherman (gol.), Storytelling An Encyclopedia of Mythology and Folklore, cyfrol 1 (Armonk, Efrog Newydd: M. E. Sharpe, 2008), tt. 88–89.
Darllen pellach
golygu- Alexander Helm, The Chapbook Mummers’ Plays: A Study of the Printed Versions of the North-West of England (Caerlŷr: Guizer, 1969)
- Peter Stockham, Chapbook ABC’s: Reprints of Five Rare and Charming Early Juveniles (Efrog Newydd: Dover, 1974).
- Harry B. Weiss, A Book About Chapbooks, the People’s Literature of Bygone Times (Trenton, New Jersey: Edwards Brothers, 1942).